Neidio i'r cynnwys

Tim Baker

Oddi ar Wicipedia
Tim Baker
GanwydTimothy Rossiter Baker
1953 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, actor Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTheatr Gorllewin Morgannwg, Theatr Clwyd Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr theatr a dramodydd a aned yn Birmingham yw Timothy Rossiter Baker neu Tim Baker (ganwyd Mai 1953). Un o sefydlwyr Theatr Gorllewin Morgannwg a bu'n gyfarwyddwr preswyl yn Theatr Clwyd ers 1997.

Mae o wedi cyfarwyddo i nifer o gwmnïau theatr ar draws y byd gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Frec a Frec (Catalonia); Theatr Genedlaethol Siapan; Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd; Mountview Academy of Dramatic Arts; Lewis and Clark Summer Institute (Portland, Oregon).[1]

Cafodd ei urddo i'r Wisg Werdd yn yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinych 2013.[2]

Yn 2014, cafodd yr anrhydedd o fod yn Gymrawd Mygedol o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam.[3]

Tim fu'n gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru am 4 blynedd.[3]

Ennillodd nifer o wobrau theatr Prydeinig am ei waith gan gynnwys To Kill a Mockingbird (Manchester Evening News Cynhyrchiad Teithiol Gorau Best 2002); Liverpool Daily Post Cynhyrchiad Rhanbarthol Gorau: A View From the Bridge (2003); Barclays Stage Partners Award: To Kill a Mockingbird (2001); Barclays Stage Partners Award: Flora's War' (2000); Liverpool Daily Post Gwobr am y Cynyhyrchiad Gorau Rape of the Fair Country (1997)[3]

Derbyniodd ganmoliaeth gan adolygydd Theatr Y Cymro, Paul Griffiths yn 2010 - "Dwi di bod yn ffan mawr o waith Tim [Baker] ers blynyddoedd, o ddyddiau cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg, hyd ei gyfnod presennol yng Nghlwyd Theatr Cymru. Roedd pob cynhyrchiad wastad yn taro deuddeg, yn llawn emosiwn, gydag ensemble cryf o actorion profiadol yn mynd â ni ar daith, er gwaethaf eu hamgylchiadau. Yn wir, af i gyn belled a dweud fod enw Tim yn uchel ar fy rhestr o gyfarwyddwyr posib i arwain y Theatr Genedlaethol."[4]

Gyrfa ddethol

[golygu | golygu cod]

Theatr

[golygu | golygu cod]

fel cyfarwyddwr:

fel awdur / addaswr:

  • Flora's War
  • The Secret
  • The Ballad of Megan Morgan
  • The Mabinogion
  • Flights of Fancy
  • The Voyage
  • Tales From Europe
  • The Timeless Myths of the Mabinogion
  • Silas Marner
  • Hard Times
  • The Way it Was
  • The Grapes of Wrath
  • Word for Word / Gair am Air (Clwyd Theatr Cymru).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Theatr Genedlaethol Cymru. Rhaglen Porth y Byddar.
  2. ↑ "Rhestr lawn o'r Cymry i'w hurddo i Orsedd y Beirdd yn 2013". BBC Cymru Fyw. 22 Mai 2013. Cyrchwyd 26 Medi 2024.
  3. 1 2 3 "Amdanom / About". Flying Bridge Theatre Company (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Medi 2024.
  4. ↑ "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Medi 2024.