Neidio i'r cynnwys

Tim Lyn

Oddi ar Wicipedia
Tim Lyn
GanwydTimothy Lyn
1962
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTreflan, Pris Y Farchnad
TadDavid Lyn

Actor a chyfarwyddwr ffilm a theledu o Gymro, yw Tim Lyn neu Timothy Lyn (ganwyd 1962).[1] Bu'n actio yn rhai o gyfresi a ffilmiau cynnar S4C fel Milwr Bychan (1987) ac Owain Glyndŵr (1983) a'r gyfres Heros (1989) a ffilmiwyd yn Awstralia gyda Jason Donovan. Bu'n cyfarwyddo a chyd-greu nifer o gyfresi a ffilmiau poblogaidd S4C fel Treflan, Pris y Farchnad, Tydi Coleg Yn Grêt, Eldra, Cylch Gwaed a Sgwâr Y Sgorpion. Enillodd wobr BAFTA Cymru i'r Cyfarwyddwr Gorau am y rhaglen Eirlys, Dementia a Tim yn 2020[2] a'r gyfres ddrama Fondue, Rhyw a Deinosors yn 2002.[3]

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Llanymddyfri ac Ysgol Gelf Caerfyrddin gan astudio ffotograffiaeth.[4]

Mae'n fab i'r actor a'r cyfarwyddwr David Lyn. Bu'n briod â'r actores Judith Humphreys. Ymgartrefodd yn Llandwrog, Caerdydd a Llansteffan.

Gyrfa fel actor

[golygu | golygu cod]

Gyrfa fel cyfarwyddwr

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Old Menai Bridge friends reunite to make touching film on dementia experience". North Wales Chronicle (yn Saesneg). 2020-01-17. Cyrchwyd 2024-09-21.
  2. "Eirlys, Dementia a Tim". Celtic Media Festival (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.
  3. "2002 Cymru Director: Drama | BAFTA Awards". awards.bafta.org. Cyrchwyd 2024-09-21.
  4. "Timothy Lyn". Hornet Squadron - a Piece Of Cake Wiki (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.
  5. "Timothy Lyn | Actor, Director". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.