Rhys Richards
| Rhys Richards | |
|---|---|
| Ganwyd | 1963 Y Bala |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | Ysgol y Berwyn |
| Galwedigaeth | actor |
| Cysylltir gyda | C'mon Midffîld! a Cylch Gwaed |
Actor Cymraeg o'r Bala yw Rhys Richards (ganed 1963)[1] a enillodd wobr yr actor gorau gan BAFTA Cymru ym 1994 am ei bortread o'r bocsiwr Emyr yn y ffilm Cylch Gwaed.[2] Aeth ymlaen i ymddangos mewn nifer o gyfresi ar S4C gan gynnwys rhan Huw, un o brif gymeriadau'r gyfres Iechyd Da. Mae hefyd wedi ymddangos mewn cyfresi fel C'mon Midffild! a ddaeth a sylw pellach iddo am ei bortread o Hari, un o chwaraewyr gwaethaf Clwb Bryncoch, ac sy'n adnabyddus yn sgil y dywediad "Hari paid â chwarae fo hwnna".
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Pan yn blentyn yn Y Bala, nododd bod ei dad "yn ddyn oedd yn actio lot yn y capel. O'n i wrth fy modd efo pethau fel Steptoe and Son a Dad's Army. Roedd fy nhad isio i mi wylio John Le Mesurier yn chwarae Sergeant a'r ffordd mae o'n chwarae yn erbyn Captain Mainwaring ac yn tan-chwarae bob dim. Fydda'n nhad yn deud 'fel'na ti'n actio'".[3]
Aeth i Ysgol y Berwyn, a daeth o dan ddylanwad yr athrawes Buddug James Jones.[3] Cafodd ei dderbyn i ddilyn cwrs drama yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ond methodd ei Lefel A.[3] Aeth i weithio mewn swyddfa yn Nolgellau ac ar ei ddiwrnod cyntaf yno fe dderbyniodd ei gyn-athrawes, Buddug James, alwad gan gyfarwyddwr o'r BBC oedd yn chwilio am actor ifanc ar gyfer rhan yn y ddrama deledu, Y Wers Olaf.[3]
Dioddefodd strôc tra'n gyrru ym mis Mai 2023[4] ond dychwelodd i actio yn y gyfres Bariau, ymhen dwy flynedd.[3]
Nododd mewn un erthygl am ei salwch, ei fod yn dioddef o glefyd "Perthes" pan yn blentyn, "sef gormod o play yn y ddwy glun, wedyn ddaru nhw roi fi mewn splint. Fedrwn i ddim cychwyn cerdded nes i mi gael fy nyflwydd felly ro'n i'n hwyr yn dysgu cerdded. O'n i'n ffeindio hi'n anodd cerdded fyny elltydd pan o'n i'n hogyn bach a hynny am 'mod i wedi dysgu cerdded yn hwyrach mae'n siŵr."[3]
Ym 1999, bu'n rhaid iddo ddysgu cerdded am yr ail-dro wedi iddo dorri ei goes "ar ôl disgyn drwy do asbestos".[3]
Er "cyfnodau prysur a digonedd o waith i bawb yn y diwydiant", ynghanol y 2000au, bu dirywiad sylweddol yn y gwaith actio felly bu'n rhaid i Rhys droi ei law at bethau eraill gan gynnwys gyrru lorri a labro.[3]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]Ffilm a Theledu
[golygu | golygu cod]- Y Wers Olaf (1982)
- Almanac (1984)
- Hywel Morgan (1984-1986)
- Penyberth (1985)
- Dinas (1986)
- Hufen a Moch Bach (1988)
- C'mon Midffîld! (1988-1994)
- Blodeuwedd (1990)
- Anturiaethau Jini Mê (1991)
- Midffîld - Y Mwfi (1992)
- Cylch Gwaed (1992)
- Pengelli (1994-1995)
- Brad (1994)
- Cylch Gwaed 2 (1994)
- Brodyr a Chwiorydd (1994)
- Y Wisg Sidan (1995)
- A55 (1994-1997)
- Iechyd Da (1997 - 2002)
- Heliwr (1997)
- Pum Cynnig i Gymro (1997)
- Amdani (2000)
- Talcen Caled (2001)
- Tywallt Inc (2001)
- Pen Tennyn (2001-2003)
- Treflan (2002)
- Eldra (2002)
- Rownd a Rownd (2003)
- C'mon Midffîld! a Rasbrijam (2004)
- Emyn Roc o Rôl (2005)
- Tipyn o Stad (2007-2008)
- Y Pris (2007)
- Cwcw (2008)
- Porthpenwaig (2011)
- Sombreros (2011)
- Gwaith/Cartref (2013)
- Organic (2025)
- Bariau (2025)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhys Richards". Golwg360. 2025-04-18. Cyrchwyd 2025-10-09.
- ↑ "BAFTA Awards, Wales (1994)". IMDb (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2025-10-09.
- 1 2 3 4 5 6 7 8 "Rhys Richards: Actio'n Bariau yn help i gryfhau ar ôl strôc". BBC Cymru Fyw. 2025-04-17. Cyrchwyd 2025-10-09.
- ↑ "Rhys Richards: Doeddwn i methu symud ochr dde fy nghorff". BBC Cymru Fyw. 2023-08-01. Cyrchwyd 2025-10-09.