Marged Esli

Oddi ar Wicipedia
Marged Esli
GanwydMarged Esli Charles-Williams Edit this on Wikidata
Mawrth 1949 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, athro Edit this on Wikidata

Actores, awdures ac athrawes yw Marged Esli Charles-Williams a adnabyddir fel Marged Esli (ganwyd Mawrth 1949). Mae'n adnabyddus am chwarae'r cymeriad Nansi Furlong yn yr opera sebon Pobol y Cwm.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Magwyd Marged ar Sir Fôn ac aeth i Ysgol Llandrygarn ac Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd ei thad yn swyddog yn y fyddin a roedd ei mam yn gweithio ar fferm y teulu. Ei thaid (ochr ei mam) oedd Esli Hughes, a'i thaid (ochr ei thad) oedd y pregethwr Thomas Charles Williams.[1]

Yn blentyn bu'n adrodd mewn eisteddfodau a dysgodd chwarae'r piano i radd 8. Aeth i wneud cwrs actio yng Ngholeg y Normal, Bangor. Cafodd gyfle i ymuno gyda Cwmni Theatr Cymru ar gynllun hyfforddi.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Pan ymunodd ag Equity nid oedd yn bosib iddo ddefnyddio ei enw llawn, felly defnyddiodd yr enw Marged Esli.[1]

Yn yr 1970au cychwynodd weithio ar nifer o raglenni plant BBC Cymru. Cyfansoddodd dros 200 o ganeuon ar gyfer y rhaglen Bys a Bawd. Yn 1975 hi a Hywel Gwynfryn oedd cyflwynwyr cyntaf y rhaglen gylchgrawn Bilidowcar[2]

Ymunodd â Pobol y Cwm fel y cymeriad Nansi Furlong gan adael y gyfres ar ddiwedd y 1980au. Dychwelodd ei chymeriad yn 2010.

Yn 2023, ysgrifenodd ei hunangofiant, gyda'r teitl "Ro'n i'n arfer bod yn rhywun", cyhoeddwyd gan Gwasg y Bwthyn.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Beti a'i Phobol. BBC Cymru (11 Ebrill 2011).
  2.  MARGED ESLI. Cinelgabran. Adalwyd ar 25 Ebrill 2018.
  3. Esli, Marged (2023). Ro'n i'n arfer bod yn rhywun. Caernarfon: Gwasg y Bwthyn. ISBN 978-1-913996-80-2.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]