Neidio i'r cynnwys

Ian Saynor

Oddi ar Wicipedia
Ian Saynor
GanwydIan Saynor
Caernarfon
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor ffilm a theledu o Gymro yw Ian Saynor (ganwyd Tachwedd 1963) Bu'n wyneb a llais cyfarwydd ar y BBC ac S4C o'r 1970au hyd heddiw.[1]

Yn enedigol o Gaernarfon, cafodd ei fagu yn Nhreffynnon yn Sir y Fflint. Cafodd ei addysg yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd ymddangos yn y ffilm Gymreig, The Corn is Green ym 1979 gyda Katharine Hepburn.

Bu'n aelod o'r Royal Shakespeare Company, Cwmni Theatr Cymru ac Hwyl a Fflag.

Roedd yn aelod gwreiddiol o'r gyfres Dinas ar S4C. Ymddangosodd mewn amrywiaeth o ddramâu teledu gan gynnwys The District Nurse. Bu hefyd yn portreadu'r cymeriad Merak yn y gyfres Doctor Who ym 1979, The Armageddon Factor . [2]

Mae'n byw yn y Cotswolds ac yn dal i actio heddiw. [3]

(detholiad)

Theatr

[golygu | golygu cod]

Teledu a ffilm

[golygu | golygu cod]
  • The Revivalist (1975)
  • Glas y Dorlan (1978)
  • The Corn is Green (1979)
  • Doctor Who (1979)
  • The Mallens (1979)
  • The Tudors (2010)
  • Y Gwyll (2015)
  • Ordinary Lies (2016)
  • Apocalypse (2017)
  • Craith (2018)
  • Endeavour (2019)
  • Enid a Lucy (2019-2022)
  • Holby City (2019)
  • Torchwood (2019)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ian Saynor". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 March 2019.
  2. "The Corn Is Green (1979)". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 August 2017.
  3. "Ian Saynor - 3 Character Images". Behind The Voice Actors.
  4. "Ian Saynor | Actor". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]