Iola Gregory

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Actores Gymreig yw Iola Gregory sydd yn fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Jean McGurk yn yr opera sebon Pobol y Cwm.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd ei rhieni yn byw yn Comins Coch ger Aberystwyth. Ei mam oedd Millicent Gregory o Sir Benfro, athrawes Gymraeg ac ymgyrchydd iaith gyda Chymdeithas yr Iaith. Roedd ei thad Oliver yn reolwr banc yn Aberystwyth.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Iola Gregory wedi bod yn actores broffesiynol ers y 1970au. Roedd yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws yn 1977.[1]

Daeth yn wyneb cyfarwydd ar gynyrchiadau teledu a ffilm Cymraeg yn yr 1980au, yn chwarae mam Joni Jones ar y gyfres deledu o'r un enw.[2]. Fe ymddangosodd yn y ffilmiau Aderyn Papur (1983), Rhosyn a Rhith (1986) a Stormydd Awst (1988). Fe chwaraeodd gymeriad y Matron yn nhrydedd cyfres y ddrama deledu District Nurse a ddangoswyd ar rwydwaith BBC One.

Yn 1987, fe ymunodd Iola gyda chast yr opera sebon Pobol y Cwm, gan chwarae'r cymeriad lliwgar Jean McGurk (Mrs Mac) a fyddai'n dod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd. Fe adawodd y gyfres yn 1997. [3]

Yn fwy diweddar, mae Iola wedi ymddangos ar y gyfres sebon i blant Rownd a Rownd a drama Porthpenwaig.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd hi'n briod gyda'r actor Robert Blythe cyn gwahanu yn ddiweddarach. Mae ganddi ferch sydd hefyd yn actores, Rhian Blythe.[4]

Yn fwy diweddar roedd yn bartner i'r prifardd Gerallt Lloyd Owen cyn ei farwolaeth yn 2014.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]