Manon Eames

Oddi ar Wicipedia
Manon Eames
Ganwyd1958 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Actor, sgriptiwr a chyflwynydd Cymreig ydy Manon Eames (ganwyd 1958) [1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd Manon ym Mangor ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Abertawe. Fe raddiodd o Brifysgol Manceinion yn 1980 a'n dilyn hynny fe ddychwelodd i Gymru gan weithio fel actores gyda chwmnïau Bag and Baggage, Hwyl a Fflag. Roedd yn un o sylfaenwyr Theatr Gorllewin Morgannwg gan deithio Cymru gydag amryw o gynyrchiadau yn cynnwys Jeremeia Jones, Vanessa Drws Nesa, Para 'Mlaen, Dawns y Dodo, Clustiau Mawr Moch Bach. Fe gyfieithodd stori When the Wind Blows gan Raymond Briggs (A’r Gwynt i’r drws bob Bore) a Shirley Valentine (Willy Russell) a chyd-ysgrifennodd gydag aelodau eraill y cwmni'r cyfresi Tocyn Diwrnod i HTV Cymru Wales ac Atodiad Lliw i BBC Radio Cymru.[2]

Yn Nhachwedd 2017 cyhoeddodd ei nofel gyntaf Porth y Byddar, stori sy'n olrhain hanes dirdynnol boddi Cwm Tryweryn.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhestr Awduron Cymru[dolen marw] Gwefan Llenyddiaeth Cymru; Adalwyd ar 2015-12-15
  2. Curriculum Vitae Gwefan Swyddogol; Adalwyd ar 2015-12-15
  3. Gwales - Porth y Byddar

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]