Trefor Selway
| Trefor Selway | |
|---|---|
| Ganwyd | Trefor Owen Selway 1931 Pandytudur |
| Bu farw | 25 Chwefror 2018 Bodelwyddan |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, athro |
Actor a diddanwr o Gymru oedd Trefor Selway (1931 – 25 Chwefror 2018).[1][2] Roedd yn athro yn y 1950au ac yn yr 1980au daeth yn actor llawn amser. Yn y 1960au bu'n aelod o Chwaraewyr Garthewin a phortreadodd Hamlet yn un o gynyrchiadau Cymraeg cyntaf o'r ddrama.[3]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Trefor Owen Selway ym Mhandy Tudur, Sir Conwy a magwyd yn ardal Penygroes. Astudiodd yn Y Coleg Normal, Bangor.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]
Bu'n athro ac yna'n brifathro yn Eglwysbach, Ysgol Glanadda ym Mangor ac Ysgol Deganwy. Yn ystod y cyfnod yma roedd hefyd yn actio ar radio ac ar lwyfan.
Yn yr 1980au cynnar, aeth i weithio fel actor yn llawn amser. Bu'n cyflwyno'r rhaglen Noson Lawen ar y radio[4] a cyflwynodd y rhifyn teledu cyntaf o'r gyfres Noson Lawen ar S4C.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod a Liz ac roedd ganddynt ddau o blant, Alwen ac Owain a berfformiodd fel deuawd yn y 1960au. Bu farw Owain Selway ar 16 Rhagfyr 2005 wedi tân difrifol yn ei dŷ yn Eglwysbach. Fe'i achubwyd o ystafell wely gan swyddogion tân ac fe'i gludwyd i Ysbyty Glan Clwyd lle bu farw yn ddiweddarach. Roedd hyn yn dilyn tân yn ei dŷ yn Eglwysbach.[5]
Bu farw Trefor yn 86 mlwydd oed, yn nghwmni ei deulu, yn Ysbyty Glan Clwyd. Roedd wedi bod yn dioddef o glefyd lymffoma. Cynhaliwyd ei angladd ar Ddydd Llun, 5 Mawrth 2018. Roedd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel MC Eglwysbach am 2.00yp wedi ei ddilyn gan wasanaeth hollol breifat yn Amlosgfa Bae Colwyn.[6]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- Gofid Cudd (1960)
- Taid (1962) -
- Hamlet (1964)
- Y Gosb Ddiddial (1992)
- Golff (1993)
- Chwith Meddwl (1993)
- Y Gelli Geirios (1993)
- Dyddiau Difyr (1998)
- Amadeus (2000)
- Diweddgan (2006)
Teledu
[golygu | golygu cod]- Dawn Dweud - perfformiwr ar y sioe adloniant (1985–1989)
- Breian - comedi sefyllfa (1989–1990)
- Porc Peis Bach
- Jabas
- Minafon (1987)
- Paradwys Ffŵl (1993)
- Y Palmant Aur fel William Jones (1996–1997)
- Hafod Haidd fel Evan (1998–1999)
- Y Stafell Ddirgel (2001)
- Cysgodion Gdansk (1987)
Ffilm
[golygu | golygu cod]- Stormydd Awst (1988)
- Noson yr Heliwr (1991)
- Wild Justice fel Samuel Hughes (1994)
- Y Mynydd Grug (1997)
- Oed yr Addewid (2002)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr actor Trefor Selway wedi marw yn 86 oed , BBC Cymru Fyw, 25 Chwefror 2018.
- ↑ Cofnod FreeBMD
- ↑ Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer.
- ↑ “Dim ond gwenu a chwerthin” wrth feddwl am Trefor Selway , Golwg360, 25 Chwefror 2018.
- ↑ Teyrngedau i’r actor Trefor Selway , Golwg360, 25 Chwefror 2018.
- ↑ "Click here to view the tribute page for TREFOR OWEN SELWAY". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-20.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Trefor Selway ar wefan Internet Movie Database