Neidio i'r cynnwys

J. O. Roberts

Oddi ar Wicipedia
J. O. Roberts
GanwydJohn Owen Roberts
17 Ionawr 1932 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 2016 Edit this on Wikidata
Benllech Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, athro Edit this on Wikidata
PlantNia Roberts a Gareth Roberts

Actor ac athro o Gymro oedd John Owen Roberts, a adwaenid fel J. O. Roberts (17 Ionawr 193219 Gorffennaf 2016).[1] Cafodd ei hunangofiant, Ar Lwyfan Amser, ei ryddhau yn 2005 fel rhan o Gyfres y Cewri.[2] Bu'n aelod blaenllaw o Gwmni Theatr Gwynedd o'i chreu ym 1986.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed John Owen Roberts yn Lerpwl, ac ar ddechrau yr Ail Ryfel Byd, symudodd e a'i chwaer i fyw gyda'i nain a'u taid ar Ynys Môn. Cafodd rhan fwyaf o'i addysg ar yr ynys a dechreuodd ei ddiddordeb mewn drama yn y cyfnod hwn.

Addysg

[golygu | golygu cod]

Yn y 1950au, dychwelodd i Lerpwl fel athro ond roedd ei ddiddordeb ym myd drama wedi cydio ac roedd wedi ymddangos mewn dramâu radio ac ar lwyfan yn barod. Aeth ymlaen i ddysgu yn Llannerch-y-medd a Bodffordd, cyn symud i adran ddrama'r Coleg Normal, Bangor.

deunydd marchnata y gyfres Lleifior

Dechreuodd actio gyda Theatr Fach Llangefni. Wedi ymddeol o'i swydd fel athro ar ddechrau'r 1980au, daeth J O Roberts yn wyneb cyfarwydd mewn dramâu teledu, ac ar lwyfan.

Ymddangosodd mewn nifer o ddramau a chyfresi teledu, yn eu plith - Hufen a Moch Bach (1983-1988), Mae Hi'n Wyllt Mr Borrow (1984), Cysgodion Gdansk (1987), Deryn, Talcen Caled. Chwaraeodd rhan Harri Vaughan yn Lleifior (1993-1995) - cyfres yn seiliedig ar lyfrau enwog Islwyn Ffowc Elis. Portreadodd Owain Glyn Dŵr yn y ffilm Owain Glyndŵr ym 1983, yn olrhain hanes y gwrthryfelwr.[2]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Mabel Ceridwen Owen, athrawes a ddysgodd yn Ysgol Gyfun Llangefni cyn ymddeol. Bu farw Mabel yn 56 mlwydd oed ar 6 Chwefror 1991, o ganser yr ofari.[3] Cawsant ddau o blant - y gyflwynwraig Nia Roberts a'r cyflwynydd chwaraeon, Gareth Roberts.[4]

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i fyd y ddrama o Brifysgol Bangor ar 13 Gorffennaf 2016. Bu farw wythnos yn ddiweddarach yn ei gartref - Pengwern, Benllech ar Ynys Môn.

Cynhaliwyd angladd cyhoeddus ddydd Gwener 29 Gorffennaf gyda gwasanaeth yng Nghapel Paradwys, Llanallgo am 1yp.[5]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

(detholiad)

Theatr

[golygu | golygu cod]

Cwmni Theatr Gwynedd

Teledu a Ffilm

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  ROBERTS-JOHN : Obituary. Daily Post (23 Gorffennaf 2016). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2016.
  2. 2.0 2.1 Yr actor J O Roberts wedi marw , BBC Cymru, 20 Gorffennaf 2016.
  3. "Cofio Mam". JustGiving (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-07.
  4. "'Daeth y diagnosis yn rhy hwyr i Mam'". BBC Cymru Fyw. 2021-03-25. Cyrchwyd 2025-09-07.
  5. "Click here to view the tribute page for JOHN OWEN ROBERTS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-02-15.