Neidio i'r cynnwys

Nia Roberts (cyflwynydd)

Oddi ar Wicipedia
Nia Roberts
Ganwyd6 Hydref 1964 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd radio, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
TadJ. O. Roberts Edit this on Wikidata

Cyflwynydd radio a theledu o Gymru yw Nia Roberts (ganwyd 6 Hydref 1964).

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Magwyd Nia Wyn Roberts yn nhref Benllech ar Ynys Môn yn ferch i'r athro ac actor J. O. Roberts. Ei brawd yw'r cyflwynydd teledu Gareth Roberts.[1]

Mae'n un o wynebau mwya cyfarwydd S4C ac mae wedi cyflwyno nifer o raglenni'r sianel yn cynnwys ei sioe sgwrsio ei hun. Cyflwynodd y sioe adloniant a chystadleuol Côr Cymru a bu'n brif gyflwynydd ar raglenni yn cyflwyno arlwy'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Roedd yn un o gyflwynwr y rhaglen gelf a diwylliant Pethe.[2] Ers 2015 mae'n cyflwyno'r rhaglen gwis Celwydd Noeth'[3]

Arferai gyflwyno rhaglen gylchgrawn yn y bore ar BBC Radio Cymru[4] cyn symud i'r prynhawn yn 2012, ond daeth y rhaglen i ben yn Rhagfyr 2013.[5] Bu'n cyflwyno'r rhaglen gelfyddydol wythnosol Stiwdio ar BBC Radio Cymru[6] ac mae'n parhau i fod yn un o gyflwynwyr Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n byw yn Y Bont-faen gyda'i gŵr Geraint ac mae ganddynt ddwy ferch, Nel a Ceisa.[1] Pan oedd yn briod gyda'r cerddor Huw Chiswell ei henw oedd Nia Chiswell.[7] Derbyniodd Gymrodoriaeth er anrhydedd am ei chyfraniad i faes darlledu gan Brifysgol Bangor ar 13 Gorffennaf 2016.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Nia focuses on family in Radio Cymru programme". northwales. Cyrchwyd 2016-01-13.
  2. "Pethe - Cyflwynwyr". S4C. Cyrchwyd 13 Ionawr 2016.[dolen farw]
  3. Celwydd Noeth - Cwmni Da[dolen farw]; Adalwyd 13 Ionawr 2016
  4. Nia Roberts - Radio Cymru, BBC
  5. (Welsh) Tad cyflwynwraig Radio Cymru yn cwyno am y BBC, Golwg360
  6. Stiwdio gyda Nia Roberts - Radio Cymru, BBC
  7. "Nia Roberts - UKGameshows". www.ukgameshows.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2016-01-13.