Gwyn Vaughan Jones
Gwedd
Gwyn Vaughan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 8 Gorffennaf 1958 Blaenau Ffestiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Actor, canwr, awdur a chyfarwyddwr yw Gwyn Vaughan Jones (ganwyd 8 Gorffennaf 1958).[1]
Mae'n hannu o Flaenau Ffestiniog ac aeth i'r ysgol gynradd yno ac yna Ysgol y Moelwyn.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Graddiodd o Coleg Cerdd a Drama Caerdydd a cychwynnodd weithio i Cwmni Theatr Cymru. Mae wedi bod yn gweithio'n broffesiynol ers 1980.
Yn yr 1980au cynnar bu'n aelod o'r grŵp actio, canu a chomedi Hapnod gyda Ann Llwyd, Cefin Roberts a Rhian Roberts. Cafodd y grŵp sawl cyfres ar S4C gan ryddhau record o'i cerddoriaeth.
Mae wedi ymddangos mewn sawl ffilm, yn cynnwys Hedd Wyn a Solomon a Gaenor. Mae wedi chwarae rhan 'Arthur' ar y gyfres Rownd a Rownd ers 2007.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyn Vaughan Jones. Ballet Cymru. Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2018.
- ↑ Holi seren Rownd a Rownd .