Christine Pritchard
Christine Pritchard | |
---|---|
Ganwyd | 6 Awst 1943 Caernarfon |
Bu farw | 14 Chwefror 2023 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Actores o Gymraes oedd Christine Pritchard (6 Awst 1943 – 14 Chwefror 2023).
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganed a magwyd Christine Owena Pritchard yng Nghaernarfon yn unig blentyn. Dwyieithog oedd yr aelwyd gyda Christine yn siarad Saesneg gyda'i thad a Cymraeg gyda'i mam. Cafodd ei addysg yn Ysgol Syr Hugh Owen, ysgol ramadeg Caernarfon ble magodd ddiddordeb mewn drama, dan arweiniaid yr athro hanes Mr Steven Claridge a Mr Hobson yr athro Saesneg.[1]
Tra yn y chweched cafodd ei derbyn gan Wilbert Lloyd Roberts i ymuno a rep radio'r BBC ym Mangor.[2]
Aeth ymlaen i astudio yn y brifysgol ym Mryste, gan ennill gradd mewn Saesneg, Lladin a Drama. Yn dilyn ei gradd aeth yn ei blaen i wneud blwyddyn tystysgrif dysgu cyn gwirfoddoli fel athrawes ar ynys Sant Kitts ble bu'n dysgu Saesneg a Ffrangeg. Dychwelodd i weithio fel athrawes yn ardal Putney, Llundain. Tra'n gweithio yno cafodd flas ar gynhyrchu dramau.
Yn 1969 cafodd gyfweliad llwyddiannus gyda Chwmni Theatr Cymru, a newidiodd gyrfa i fod yn actores.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Rôl cyntaf Christine fel rhan o Gwmni Theatr Cymru oedd y brif ran yn y ddrama Roedd Caterina o Gwmpas Ddoe gan gymryd drosodd o Gaynor Morgan Rees.[3]
Ar ddechrau'r 1970au camodd o'r llwyfan i'r sgrîn fach, gan ymddangos ar gyfresi fel Glas y Dorlan. Yn yr 1980au chwaraeodd gymeriad Ruth Gregory yn Dinas. Yn y 1990au chwaraeodd rhan y prif gymeriad yn Rala Rwdins a Pobol y Cwm lle bu'n chwarae rhan Laura Metcalfe.
Yn fwy diweddar roedd ganddi rannau ar ddramau megis Anita, Deian a Loli, 35 Awr ac Un Bore Mercher.
Roedd yn adnabyddus i gynulleidfaoedd di-Gymraeg hefyd, gan ymddangos ar gyfresi Saesneg fel Tourist Trap, Doctors, Stella ac Indian Doctor.[4]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Teitl | Blwyddyn | Rhan | Cwmni Cynhyrchu | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Y Rhandir Mwyn | 1973 | Dorti | BBC Cymru | |
Enoc Huws | 1974 | Susi Trefor | BBC Cymru | |
Pobol y Cwm | 1976 | Catherine Rowlands | BBC Cymru | |
Sianel 5 | 1976 | Cymeriadau Amrywiol | BBC Cymru | |
Glas y Dorlan | 1978-1985 | Beti Davies | BBC Cymru | Cyfres 2-5 |
Taff Acre | 1981 | Dilys Mainwaring | ||
Newydd Bob Nos / Night Beat News | 1982-1984 | Freda Phillips | W.P. Productions ar gyfer S4C/Channel 4 | |
Diar Diar Doctor | 1983 | |||
The Magnificent Evans | 1984 | Maggie | ||
The District Nurse | 1984 | Miss Rhees | BBC Cymru | |
Dinas | 1985-1991 | Ruth Gregory | HTV | |
Siôn Blewyn Coch | 1986 | Sera Jones | Siriol Productions | Llais |
Yr Ŵy Pasg | 1987 | Sera Jones
Cyw Estrys |
Siriol Productions | Llais |
Cariad Cyntaf | 1988 | Sera Jones | Siriol Productions | Llais |
Rhith y Lloer | 1989 | MME. Fourcy | BBC Cymru | |
Yr Injan Fach Fentrus | 1991 | Llais | ||
Pris y Farchnad | ||||
Y Dywysoges a'r Bwgan | 1992 | Loti | Siriol Productions a Pannonia | Llais |
Screen One | 1993 | Cheryl Yeoman | ||
Dial | 1994 | Margaret Hughes | Pendefig | |
Pobol y Cwm | 1994, 1996, 1999 | Laura Metcalfe | BBC Cymru | |
Rala Rwdins | 1995-1997 | Rala Rwdins | Teledu Elidir | |
Double Exposure: Relative Stranger | 1996 | Dr. Edwards | BBC Cymru | |
Cameleon | 1997 | Cassandra (Cassie) Bowen | Elidir / S4C | |
Y Ferch Dawel | 1997 | Ffilmiau Llifon | ||
Yr Eneth Fwyn | 1997 | Modryb Pulceria | BBC Cymru | |
Talcen Caled | 2001 | Morfudd | Ffilmiau'r Nant | Cyfres 3 |
Porc Peis Bach | 2001 | Sister Gwyneth | Cambrensis | |
Treflan | 2002 | Mrs Amos | Alfresco | |
Facing Demons | 2002 | Mrs Lawrence | BBC Wales | |
A Way of Life | 2004 | Matron | ||
O Na! Y Morgans | 2004-2006 | Rusty-O Na! | Apollo | |
Sabrina | 2005 | Atsain | Llais | |
Y Pris | 2007 | Fiction Factory | ||
Cwcw | 2008 | Fondue | ||
Stella | 2010-2012 | Nana Cymru | Tidy Productions | |
Cofio Ceredig | 2011 | Cyfranwr | ||
Pobol y Cwm | 2013 | Shirley | BBC Cymru | Pennod nadolig |
Indian Doctor | 2013 | Mrs Daniels | Rondo ar gyfer BBC | |
Chwilio am Mary | 2013 | Adroddwr | Lumedia ar gyfer S4C | |
Ysbytu | 2014 | Gloria | Boomerang ar gyfer S4C | |
Cara Fi | 2014 | Nansi Hopkins | Touchpaper TV | |
Doctors | 2015 | Dr Bethany Coulson | BBC | |
Anita | 2016-2017 | Vivian | Boom Cymru | |
Deian a Loli | Nain Botwnnog | Cwmni Da | ||
Down the Caravan | 2017 | Maisy | Happy Campers Productions | |
Tourist Trap | 2018 | Liz | The Comedy Unit | |
35 Awr | 2019 | Moira | Boom Cymru | |
Right Now | 2019 | Mam | ||
Cyswllt (Mewn COVID) | 2020 | Eirlys | Vox Pictures | |
Un Bore Mercher | 2020 | Yr Athro Wyn | Vox Pictures | Cyfres 3 |
- Ffilmyddiaeth o Spotlight[5]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Beti a'i Phobol: 15 Mai 1986
- ↑ Beti a'i Phobol: 20 Mehefin 1993
- ↑ Morgan, S 2012, Hanes Rhyw Gymraes, Y Lolfa. ISBN: 1847715478, 9781847715470
- ↑ Yr actores Christine Pritchard wedi marw yn 79 oed , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2023.
- ↑ Spotlight Spotlight - Christine Pritchard.