Gaynor Morgan Rees
| Gaynor Morgan Rees | |
|---|---|
| Ganwyd | 1948 Abercwmboi |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor |
| Cysylltir gyda | Fo a Fe, Cwmni Theatr Cymru, Pobol y Cwm |
Actores o Abercwmboi, Cwm Cynon yw Gaynor Morgan Rees (ganwyd 1948).[1] Portreadodd rhai o gymeriadau eiconig dramâu Gwenlyn Parry am y tro cyntaf, drwy fod yn un o'r aelodau Cymraeg gwreiddiol o Gwmni Theatr Cymru (1965–1984). Daeth i amlygrwydd cenedlaethol am ei rhan fel 'Diana', merch 'Twm Twm' (Ryan Davies) yn y gyfres comedi boblogaidd Fo a Fe, a ddarlledwyd ar BBC Cymru o 1972 hyd 1977. Bu hefyd yn ran o'r gyfres Pobol Y Cwm yn portreadu'r cymeriad 'Nerys' (merch y cymeriad 'Jacob Ellis') rhwng 1974 a 1991.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Abercwmboi, Cwm Cynon, mae hi'n ferch i David Morgan Rees a'i wraig Lily Bronwen.[2] Symudodd i weithio i'r BBC ym Mangor yn 1962 ar ôl graddio o'r coleg drama. Cafodd ei dewis yn un o'r 6 actor cyntaf i ymuno â chwmni drama o actorion a noddwyd gan y BBC a Cwmni Theatr Cymru ym 1965, gan ymuno gyda Iona Hughes Banks, John Owen [Ogwen] Hughes, Robin Hughes, Lisabeth Miles a Charles David Price.[3] Yn sgil bod yn rhan o'r Cwmni Theatr, hi gafodd y fraint o bortreadu rhai o gymeriadau dramâu eiconig Gwenlyn Parry (Saer Doliau, Tŷ Ar Y Tywod, Y Ffin) a Saunders Lewis, (Problemmau Prifysgol) am y tro cyntaf.
Mae hi wedi byw yn y gogledd ers 1984 ger tref Dinbych lle mae hi'n weithgar gyda Theatr Twm o'r Nant.[4]
Mae'n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Tref Dinbych.[5] Bu'n Faeres y dref yn 2001.
Ym 1997, bu'n llygad y Wasg yn Sir Ddinbych dros achos Y Fonesig Janet Cowley, oedd yn mynnu'r hawl i fyw mewn sied ar ystad Ystrad Hall ger Dinbych, sef cartref Rees a'i gŵr Nick Rowlandson ers 1983. Magwyd Cowley ar yr ystad, gan barhau i fynnu'r hawl i fyw yn y sied, er gwaethaf sawl achos llys a chostau cyfreithiol o £20,000. Apeliodd Rees yn erbyn dyfarniad Cyngor Sir Ddinbych a gytunodd i Cowley ail-feddiannu'r sied.[6] Enillodd Cowley ei hachos yn Ionawr 1998, wedi i Rees a Rollason dynnu'n ôl o'r apel.[7]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd â Nick Rowlandson ym 1974.[8]
Gyrfa ddethol
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- Y Tad Afradlon (1964)
- Cariad Creulon (1965)
- Saer Doliau (1966) y llwyfannu gwreiddiol o ddrama Gwenlyn Parry
- Pros Kairon (1966)
- Deud Yda Ni (1967)
- Tŷ Ar Y Tywod (1968) y llwyfannu gwreiddiol o ddrama Gwenlyn Parry
- Tair drama fer gan Eugène Ionesco : Y Tenant Newydd, Merthyron Dyletswydd a Pedwarawd (1968)
- Problemmau Prifysgol (1968)
- Dawn Dweud (1969)
- Meistr y Chwarae (1969)
- Y Ffordd (1969)
- Cilwg yn Ôl (1969)
- Tri Chryfion Byd (1969)
- Roedd Catarina o gwmpas ddoe (1970)
- Cofio Cynan (1970)
- Y Claf Diglefyd (1971)
- Rhyfedd y'n Gwnaed (1971)
- Y Barnwr (1971)
- Hynt A Helynt Y Ddrama Gymraeg (1971) taith ysgolion
- Y Ffin (1973) y llwyfannu gwreiddiol o ddrama Gwenlyn Parry
- Yr Addewid (1977)[9]
- Syrcas (1981)
Cwmnïau eraill
- A Kind Of Loving (1968) Liverpool Playhouse[10]
- Under Milk Wood (1968) Liverpool Playhouse[11]
- Pwy bia'r Gân? (1991-1993) Cwmni Whare Teg
- Merched Eira - Bara Caws
- Dulce Domum (2003) Theatr Bara Caws
Teledu a ffilm
[golygu | golygu cod]- Mostyn a'r Cryman Bach (1964)
- Y Tad Afradlon (1964)
- Stiwdio B (1965)
- Y Llyn yn y Mynydd (1965)
- Byd a Betws (1966)
- Absalom fy Mab (1966)[12]
- A Barcud yn Farcud Byth (1966)[13]
- Junior Points of View (1967)[14]
- Fo a Fe (BBC Cymru, Mawrth 1972 - Ionawr 1977) fel Diana
- Pobol Y Cwm (1972 - 1992) fel Nerys Cadwaladr
- Galw i Mewn (1972) HTV gwestai
- Two Women (1974) HTV[15]
- Poems & Pints (1975)
- Off to Philadelphia in the Morning (1978, teledu) fel Anne Parry
- Hafod Henri (1984–1987)
- Tywyll Heno (1986)
- Y Ferch Drws Nesa' (1995)
- Iechyd Da (1997)
- Calon Gaeth (2006), fel Nano
- Arwyr (2008, teledu) fel Megan
- Dan y Wenallt
- Cara Fi
- Teulu
- Fondue, Rhyw a Deinosors (2001)
- Pengelli (1994–2001)
- Eira Cynta'r Gaeaf
Radio
[golygu | golygu cod]- The White Sparrow (1967)
- Becca Bingo (2013)
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Llyfrgell Wicipedia". wikipedialibrary.wmflabs.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2026.
- ↑ Cymdeithas Hanes Bro Cynon. 2022. https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/2022_Hanes_98.pdf.
- ↑ "Nucleus of Welsh drama company". The Stage. 9 Medi 1965.
- ↑ S4C
- ↑ Cyng - Cllr Gaynor Morgan Rees. Cyngor Tref Dinbych. Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2020.
- ↑ Williams, Brendon (2 Mawrth 1997). "Sad shed aga of society beauty". Wales on Sunday.
- ↑ Jones, Dave (6 Chwefror 1998). "The lady's glad to be home". Vale Advertiser.
- ↑ "Y Llyfrgell Wicipedia". wikipedialibrary.wmflabs.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2026.
- ↑ "hysbyseb Yr Addewid". Neath Guardian. 3 Tachwedd 1977.
- ↑ "The Critics". Liverpool Echo. 29 Ionawr 1969.
- ↑ "Gentle, genuine 'Milk Wood' at Liverpool". The Stage. 24 Rhagfyr 1968.
- ↑ "BBC Byd a Betws". Y Clorianydd. 27 Rhagfyr 1966.
- ↑ "Another play by John Gwilym Jones". The Stage. 5 Mai 1966.
- ↑ "TV Listings". Shropshire Star. 1 Medi 1967.
- ↑ "Two Women". TV Times. 25 Ebrill 1974.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gaynor Morgan Rees ar IMDB