Neidio i'r cynnwys

Noel Williams

Oddi ar Wicipedia
Noel Williams
GanwydNoel Owen Williams
16 Rhagfyr 1927
Llanbedrog, Llŷn
Bu farw15 Ionawr 2022
Caerdydd
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Cymraeg, athro

Actor Cymraeg oedd Noel Williams (16 Rhagfyr 192715 Ionawr 2022[1]) a aned yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn. Roedd yn wyneb a llais cyfarwydd ar S4C o'i chychwyn, yn ogystal â chynyrchiadau llwyfan.

Astudiodd i fod yn athro yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ym 1954, a dechreuodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Rhydypennau, Caerdydd cyn symud i Ysgol St Cyres, Penarth. Ymunodd â chwmni Repertori y BBC ym 1955 a bu'n rhan o gast gwreiddiol drama Saunders Lewis Brad ym 1959 gan bortreadu'r Cadfridog Steupnagl.[2] Tra'n gweithio fel athro, bu'n gweithio hefyd yn rhan amser ym myd y cyfryngau, gan ddarlledu’r newyddion ar gyfer TWW a BBC Cymru. Fe ymgeisiodd i fod yn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Dwyrain Y Rhondda yn yr Etholiad Cyffredinol ym 1959, ond cafodd ei guro gan yr ymgeisydd Llafur

Pan ymddeolodd o’i waith fel athro, mentrodd i’r diwydiant actio.

Un o'i ymddangosiadau cyntaf ar deledu oedd yn y gyfres ddrama Y Stafell Ddirgel, a gafodd ei haddasu o nofel Marion Eames a’i darlledu yn Gymraeg ar BBC One Wales ym 1971. Bu'n rhan o gyfresi drama cynnar S4C hefyd gan gynnwys y gyfres ddrama wleidyddol Cysgodion Gdansk ym 1987, a’r gyfres ddirgel Barbarossa ym 1989, y ddwy o waith Ffilmiau Tŷ Gwyn. Yn y 1990au, bu'n rhan o gyfresi drama poblogaidd S4C fel Tydi Bywyd yn Boen a'r ddwy gyfres o Lleifior, gan bortreadu'r cymeriad eiconig Karl Weissman o nofelau poblogaidd Islwyn Ffowc Elis sef Cysgod y Cryman acYn Ôl i Leifior.

Ymddangosodd hefyd yn rhai o ffilmiau mwyaf llwyddianus S4C fel Hedd Wyn, Tân ar y Comin ac Oed yr Addewid.

Bu'n actio gyda nifer o gwmnïau theatr yng Nghymru gan gynnwys Cwmni Theatr Gwynedd, Brith Gof a Dalier Sylw.

Ar hyd ei oes, roedd yn ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg ac yn cael ei ddisgrifio fel “Cymro balch”.

Bu farw yng Nghaerdydd yn ar y 15fed o Ionawr 2022. Mae’n gadael ei wraig, Lena, a’u tri o blant, Huw, Rhys a'r cynllunydd gwisgoedd Ffion Elinor.[1]

Teledu

[golygu | golygu cod]
  • Y Stafell Ddirgel (1971) BBC Cymru
  • Cysgodion Gdansk (1987) Ffilmiau Tŷ Gwyn
  • Deryn (1988) Ffilmiau'r Nant
  • Barbarossa (1989) Ffilmiau Tŷ Gwyn
  • Tydi Bywyd yn Boen (1992) Ffilmiau Eryri
  • Lleifior (1993) Ffilmiau Tŷ Gwyn
  • Cegin y Cythraul (1994) - yn y gyfres I Dir Drygioni i Ffilmiau Eryri
  • Lleifior II (1996) Ffilmiau Tŷ Gwyn
  • Yr Eneth Fwyn (1997) BBC Cymru
  • Treflan (2000)

Theatr

[golygu | golygu cod]
  • Brad (1959)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Cofio'r actor Noel Williams". Golwg360. 2022-02-09. Cyrchwyd 2024-08-24.
  2. Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Plas Dafydd 1987.