Tân ar y Comin (ffilm)
Gwedd
| Teitl amgen | A Christmas Reunion |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | David Hemmings |
| Cynhyrchydd gweithredol | Dafydd Huw Williams, Lance H Robbins |
| Cynhyrchydd | Elizabeth Matthews, Carol Byrne Jones |
| Ysgrifennwr | Angharad Jones (addasiad o nofel T. Llew Jones) |
| Serennu | James Coburn, Edward Woodward, Meredith Edwards, Myfanwy Talog, Fraser Cains, Melanie Walters, Gweirydd ap Gwyndaf |
| Cerddoriaeth | Stephen C. Marston |
| Sinematograffeg | Barry Stone |
| Golygydd | Trevor Keates |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Y Wennol / Peakviewing Production |
| Dosbarthydd | S4C, Saban Entertainment |
| Dyddiad rhyddhau | 1994 |
| Amser rhedeg | 92 mun |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg, Saesneg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm Gymraeg yw Tân ar y Comin wedi ei seilio ar nofel o'r un enw gan T. Llew Jones. Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan David Hemmings. Fe'i ddarlledwyd ar S4C am y tro cyntaf ar 1 Ionawr 1994.[1]
Ffilmiwyd y ddrama ar amryw leoliadau yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys Fferm Penyrallt ger Llandysul. Cynhyrchwyd fersiwn Saesneg gefn-wrth-gefn dan y teitl A Christmas Reunion a fe'i ryddhawyd ar fideo yn yr Unol Daleithiau yn 1994. Roedd gan y fersiwn yma olygfeydd ychwanegol wedi eu ffilmio yn Boston.[2]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) A Christmas Reunion ar wefan Internet Movie Database
- Gwefan Cynhyrchiadau Peakviewing
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tim Boswel yn Dychwelyd i Geredigion (Diwrnod Cenedlaethol i Gofio T. Llew Jones). Cyngor Llyfrau Cymru (1 Hydref 2010). Adalwyd ar 19 Mai 2016.
- ↑ (Saesneg) Jinsy (22 Rhagfyr 2011). 'A Christmas Reunion' or 'Tan ar y Comin' - Filmed at Penyrallte. Adalwyd ar 19 Mai 2016.