Tân ar y Comin
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | T. Llew Jones |
| Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1975 |
| Pwnc | Nofelau Cymraeg i blant a phobol ifanc |
| Argaeledd | mewn print |
| ISBN | 9781785620850 |
| Dynodwyr | |
- Erthygl am y nofel yw hon. Am y ffilm sy'n seiliedig arni gweler Tân ar y Comin (ffilm).
Nofel antur am y Sipsiwn i blant a phobl ifanc gan T. Llew Jones yw Tân ar y Comin. Fe'i cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer yn 1975. Ym 1976 enillodd y llyfr Wobr Tir na n-Og. Cafwyd argraffiad newydd yn 1993, 2003 a 2015.[1]
Cyfieithwyd y nofel i'r Saesneg gan yr awdur a Carol Byrne Jones dan y teitl Gipsy Fires (Pont Books, 1994).
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Cawn hanes anturiaethau Tim, un o blant y sipsiwn, a adewir yn amddifad ar gomin Glanrhyd wedi i'w daid farw, heb ddim ond carafán, caseg, a'r ebol a anwyd ar y noson y bu farw'r hen ŵr.
Ffilm
[golygu | golygu cod]Cynyrchwyd ffilm sy'n seiliedig ar y nofel, sef Tân ar y Comin, a ddarlledwyd ar S4C.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 4 Medi 2017