Carol Byrne Jones

Oddi ar Wicipedia
Carol Byrne Jones
Ganwyd31 Gorffennaf 1943 Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 2023 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathro, darlithydd, bardd Edit this on Wikidata

Athrawes, darlithydd, cynhyrchydd a bardd o Gymraes oedd Carol Byrne Jones (31 Gorffennaf 194329 Tachwedd 2023). Bu'n gynhyrchydd y ffilm Tân ar y Comin ymysg rhaglenni eraill.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Magwyd Carol yn Nyffryn Teifi. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg Prifysgol Caerdydd. Wedi gadael y coleg aeth yn drefnydd drama i Sir Frycheiniog.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu'n darlithio yn Nulyn ac wedi cyfnod yn dysgu Drama a Saesneg yn Aberteifi aeth i weithio i HTV yng Nghaerdydd a'r Wyddgrug, "gan ddod y fenyw gyntaf i gyfarwyddo rhaglenni i'r cwmni". Wedi hynny ffurfiodd cwmni ei hun, Y Wennol Cyf, a gynhyrchodd y ffilm Tân ar y Comin.

Hefyd cyfieithodd y nofel i'r Saesneg, gyda'r teitl Gipsy Fires. Aeth i ddarlithio ar ffilm a drama i Brifysgol Llambed gan wneud gradd doethuriaeth yn y maes. Bu hefyd yn Ddarlithydd Cynhyrchu yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd ganddi ddau fab - Huw a Conor a brawd, Ken Jones.

Roedd yn byw yn Aberporth. Bu farw yn 80 mlwydd oed yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin wedi gwaeledd byr. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 1 o'r gloch ddydd Llun, 18 Rhagfyr.[2]

Teyrngedau[golygu | golygu cod]

Dywedodd y bardd a'r ymgyrchydd Philippa Gibson - "Roedd hi'n ffrind i gymaint o bobl... Fe fyddai hi mor frwdfrydig am bob dim - yn enwedig gyda phapur bro Y Gambo. Roedd hi'n golygu y papur yn aml a wastad yn fodlon camu mewn os nad oedd neb arall ar gael.

"Byddai hi wrth ei bodd yn nosbarth cynganeddu Ceri Wyn Jones a dosbarth trafod cerdd Idris Reynolds, roedd hi'n aelod ffyddlon o Gymdeithas Ceredigion ac yn aelod selog o dîm Talwrn y Beirdd Glannau Teifi."

Dywedodd y Prifardd Idris Reynolds - "Roedd ganddi gyfoeth o wybodaeth - yn enwedig ym maes llenyddiaeth. Roeddwn i'n falch iawn o'i chael yn y dosbarth trafod llenyddiaeth.

Talwyd teyrnged iddi gan Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C: "Mae'n siŵr y bydd cenedlaethau o wylwyr S4C yn cofio ffilm Tân ar y Comin, clasur gafodd ei seilio ar nofel T. Llew Jones.

"Mae'r ffilm yn enghraifft wych o waith Carol Byrne Jones, ffilm sy'n dal i gael ei gwerthfawrogi hyd heddiw."[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Carol Byrne Jones: Cofio menyw oedd yn 'ffrind i gymaint o bobl'". BBC Cymru Fyw. 2023-12-11. Cyrchwyd 2023-12-12.
  2. "The obituary notice of Carol Ann Byrne JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-12.