Myfanwy Talog
| Myfanwy Talog | |
|---|---|
| Ganwyd | Myfanwy Talog Williams 31 Mawrth 1944 Caerwys |
| Bu farw | 11 Mawrth 1995 Swydd Buckingham |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor |
| Partner | David Jason |
Actores o Gymru oedd Myfanwy Talog neu Myfanwy Talog Williams (31 Mawrth 1944 – 11 Mawrth 1995).[1] Roedd hi'n wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfannau a'r sgrin yng Nghymru a thu hwnt ers sawl degawd. O deledu plant cynnar yn y 1970au i raglenni poblogaidd BBC Cymru fel Ryan a Ronnie. Lleisiodd y gyfres cartŵn Wil Cwac Cwac ar S4C yn ogystal.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Myfanwy yng Nghaerwys, gogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ganddi frawd iau, Gwilym. Hyfforddodd fel athrawes yng Nghaerdydd cyn cychwyn ar ei gyrfa ym myd y cyfryngau.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymddangosai ar y rhaglen Gymraeg i blant, Teliffant, yn ystod y 1970au, yn ogystal â chwarae rhan Phyllis Doris yn y gyfres gomedi boblogaidd Ryan and Ronnie ar y BBC. Yn y 1980au ymddangosai yn yr operau sebon Cymraeg Coleg (1982) a Dinas ar S4C, ac mewn sawl cyfres gomedi Saesneg ar y BBC, gan gynnwys Bread a The Magnificent Evans. Yn ddiweddarach, roedd yn fwy cyfarwydd i'r genhedlaeth ifanc fel lleisydd y gyfres cartŵn Wil Cwac Cwac.
Mae plac ar wal y tŷ yn Stryd Fawr Caerwys lle roedd hi'n byw.[2]
Talodd yr actores a'i chyfaill Christine Pritchard deyrnged iddi yn Barn [Ebrill 1995] drwy ddweud bod "llu o bobl wedi eu swyno gan ei hysbryd hael, ei charedigrwydd diarhebol, ei hwyl. Roedd ganddi hi'r gallu prin i fod yn 'un o'r hogia' ac i fod yn un o'r genod," ychwanegodd.[3]
Cyfansoddodd Iwan Llwyd englyn fel coffa da amdani:[3]
Er i dir yr eira ei dwyn - o'n plith
Y mae plethiad addfwyn
Ei blagur hi'n Ilenwi'r llwyn
A'i gwên yn deffro'r gwanwyn.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn bartner i Syr David Jason ers i'r ddau gyfarfod yn y 1970au. Roedd Jason yn adnabod yr actores o Gymraes Olwen Rees wedi iddynt gyd-actio mewn addasiad ffilm o Under Milk Wood (1972). Yn 1977 daeth Jason i Gaerdydd i berfformio mewn drama a daeth Olwen Rees i wylio gyda'i ffrind Myfanwy. Syrthiodd y ddau mewn cariad a bu'r ddau yn bartneriaid am dros 18 mlynedd tan ei marwolaeth o ganser y fron.[4]
Gwaith
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Siwan (Theatrig)
- Excelsior (Cwmni Theatr Gwynedd)
- The Druid's Rest (Cwmni Theatr Gwynedd)
- Y Lefiathan (Cwmni Theatr Cymru)
- Under Milk Wood (Greenwich)
- Blow to Bute Street (Made in Wales)
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]- Teliffant (BBC)
- Ryan a Ronnie (BBC)
- Gwenoliaid (S4C)
- Coleg (S4C)
- Dinas (S4C)
- Bread (BBC)
- The Magnificent Evans (BBC)
- Brad (S4C)
- Wil Cwac Cwac (S4C)
- Tân ar y Comin (S4C)
- Minafon (S4C)
- Shakespeare: Y Dramâu wedi'u Hanimeiddio (S4C)
- Plant y Tonnau (1986)
- Yes, Prime Minister (BBC)
- May to December (BBC)
- Snow (BBC)
- Within These Walls
Radio
[golygu | golygu cod]- Amrywiaeth o ddramâu i BBC Radio 4
- Congrinero'r Gorllewin (1993)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 21 December 2018.
- ↑ Myfanwy: Dadorchuddio plac BBC 31 Mawrth 2006
- 1 2 Pritchard, Christine (Ebrill 1995). "Myfanwy Talog (1944-1995)". Barn 387.
- ↑ Sir David Jason opens up on tragic romance with Welsh actress , WalesOnline, 13 Hydref 2013. Cyrchwyd ar 21 Rhagfyr 2018.