Wil Cwac Cwac

Oddi ar Wicipedia
Wil Cwac Cwac

Cymeriad cartŵn yw Wil Cwac Cwac. Fe'i crëwyd mewn cyfres o lyfrau Cymraeg i blant yn y dauddegau a'r tridegau gan yr awduron Jennie Thomas a J. O. Williams (gan gynnwys y clasur Llyfr Mawr y Plant).

Crëwyd cyfres cartŵn ar gyfer y teledu, yn seiliedig ar y cymeriad, a ddarlledwyd o ganol yr wythdegau hyd ddechrau'r nawdegau.[1] Lleolir anturiaethau Wil Cwac Cwac a'i ffrindiau yng nghefn gwlad Cymru. Cawsai'r naratif a lleisiau'r cymeriadau i gyd eu lleisio gan yr actores Myfanwy Talog.

Cynhyrchwyd fersiwn Saesneg o'r gyfres deledu o'r enw Will Quack Quack. Unwaith eto, Myfanwy Talog oedd yn lleisio'r holl gymeriadau, ac roedd acen Gymraeg y cymeriadau yn drwm. Cafodd y gyfres Saesneg ei darlledu ar The Disney Channel, ynghyd ag ar sianel The Playhouse Disney, ochr yn ochr â rhaglenni plant poblogaidd eraill fel Dumbo's Circus, Paddington Bear, Under The Umbrella Tree a Welcome to Pooh Corner.

Mae tair cyfres Wil Cwac Cwac ar fideo a dwy ohonynt ar gael ar DVD; mae hefyd CD-ROM o gemau addysgol.

  • Fideo
  • DVD
    • Wil Cwac Cwac (1): Siop Bob Dim (Sain)
    • Wil Cwac Cwac (2): Bwystfil Llyn y Felin (Sain)
  • CD-ROM
    • Anturiaethau Wil Cwac Cwac (gemau addysgol) (Sain)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]