Plas Dafydd
Awdur | Huw Roberts |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Gwynedd |
Math | Drama Gymraeg |
Argaeledd | heb ei gyhoeddi |
Ffars ddwy act gan y dramodydd Huw Roberts yw Plas Dafydd a gyfansoddwyd ym 1987. Mae'n cwblhau ei drioled o ddramâu a gychwynodd gydag Hywel A (1979) a dilynwyd gan Pont Robat (1981), gyda'r enwau personol yn cysylltu'r tair. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1987.
Cefndir byr
[golygu | golygu cod]Disgrifiodd John Ogwen y tair drama fel tri phlentyn i’r dramodydd a'i gyfrifiadur, yn Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Plas Dafydd ym 1987.
“Mae'r tri plentyn yn debyg iawn i'w gilydd ond fel brodyr ymhob teulu mae i bob un ei arwhanrwydd ei hun. Pob un yn tynnu ar ôl eu tad wrth reswm pawb - difyr, llawn hiwmor a direidi, ond hefyd gydag elfen gref o ddifrifolwch bob hyn a hyn. Yn enwedig y 'fenga 'ma. [...] 'Roedd y ddau hyna', Hywel A Robat, yn hynod boblogaidd efo pawb ymhob man a'does gen i ddim dowt na fydd Dafydd 'ma hefyd. Synnwn i ddim na thyfith Dafydd yn hogyn clyfrach a chryfach na hyd yn oed y ddau arall. Amser a ddengys”.[1]
Lleolir y digwydd yn hen blasdy Plas Dafydd sydd wedi ei droi'n Glinig Adfywiad.
Ni chafodd y ddrama erioed mo'i chyhoeddi.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Angharad
- Arolygydd Blaidd
- Dewi
- Catrin - nyrs
- Tudur ap Tudur
- Pyrs
- Dafydd - perchennog y Plas
- Saer
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1980au
[golygu | golygu cod]Llwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1987 yn Theatr Gwynedd, Bangor cyn mynd ar daith gyda John Ogwen yn cyfarwyddo a Christopher Green yn cynllunio. Cynllunydd Goleuo oedd Tony Bailey Hughes.[1] Cast:
- Angharad - Maureen Rhys
- Arolygydd Blaidd - Dewi Rhys
- Dewi - Alun Elidyr
- Catrin - Mari Emlyn
- Tudur ap Tudur - J.O Roberts
- Pyrs - Gari Williams
- Dafydd - Noel Williams
- Saer - Huw Vaughan Roberts