Gari Williams

Oddi ar Wicipedia
Gari Williams
FfugenwGari Williams Edit this on Wikidata
GanwydEmyr Pierce Williams Edit this on Wikidata
10 Mawrth 1946 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1990 Edit this on Wikidata
Ysbyty Walton, Lerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr, actor, canwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Digrifwr, canwr, actor a chyflwynydd oedd Gari Williams (10 Mawrth 194618 Gorffennaf 1990).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd ym Mryn Rhyd-yr-Arian ger Llansannan, yn fab hynaf i Harri Pierce a Nance Williams. Ei enw bedydd oedd Emyr Pierce Williams. Symudodd y teulu i Lanrwst yn 1956 ac i Fochdre ger Bae Colwyn yn 1963.

Fe briododd Hafwen ar 17 Mai 1969 - ganed eu merch Nia yn 1977 a'i mab Guto yn 1988.

Cafodd ei daro'n ddifrifol wael yng Ngorffennaf 1990 a fe'i gludwyd i Ysbyty Walton, Lerpwl, lle bu farw wedi gwaeledd byr.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd berfformio yn Ionawr 1969 yn canu gyda'i frawd Elwyn. Fe ddaeth Emyr ac Elwyn yn ddeuawd poblogaidd ac fe ryddhawyd y ddau nifer o recordiau ar label Cambrian.[2]. Roedd Gari yn honni fod swilder ei frawd yn golygu fod rhaid iddo wneud y gwaith cyflwyno rhwng y caneuon, ac fe ddefnyddiodd hyn i ymarfer ei ddawn berfformio a chomedi.[3]

Yn 1974 fe ddaeth yn berfformiwr proffesiynol gyda mwy o bwyslais ar gomedi na chanu. Fe awgrymodd y digrifwr Ronnie Williams iddo newid ei enw llwyfan i er mwyn gallu apelio at gynulleidfa ehangach ar draws Prydain - a dewisodd Emyr yr enw Gari Williams.[1]

Yn 1976 cafodd y brif ran ym mhantomeim Cwmni Theatr Cymru, Madog, ac fe ddaeth yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau Cymru. Fe ymunodd a'r opera sebon Pobol y Cwm yn 1979, gan chwarae'r mecanic Edgar Sutton. Yn Jabas, y gyfres ddrama deledu i bobl ifanc, roedd yn chwarae Sam Llonga, tad y prif gymeriad.[4] Ymddangosodd mewn nifer o gyfresi eraill fel y gomedi sefyllfa Eric gyda Stewart Jones a Myfanwy Talog.[5]

Yn yr 1980au fe ddechreuodd gyflwyno'r sioe Galw Mewn ar BBC Radio Cymru. Ar deledu cyflwynodd y sioe gomedi Galw Gari ar S4C o 1982 ymlaen yn ogystal â thair cyfres o sioe adloniant Rargian Fawr. Darlledwyd y bedwaredd gyfres o Galw Gari yn 1990, misoedd cyn ei farwolaeth.[1][3]

Cronfa Gari[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cronfa Gari fel elusen yn 1991.[6] Bwriad y gronfa yw cynnig cefnogaeth ariannol i unigolyn neu unigolion sy'n dymuno canolbwyntio ar adloniant byw o flaen cynulleidfa Gymraeg.[1] Ers hynny mae wedi cefnogi nifer o ddigrifwyr a digwyddiadau comedi yn y Gymraeg, yn cynnwys sawl Gala Comedi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 ap Dafydd, Myrddin (1996). Mab Hynaf Musus Wilias - Cofio Gari. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0863813992. |access-date= requires |url= (help)
  2. Cofnod Discogs - Emyr Ac Elwyn
  3. 3.0 3.1  Hanes Gari Williams. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Rhagfyr 2015.
  4. Porth - Jabas ; Adalwyd 30 Rhagfyr 2015
  5. Cofio Gari Williams 70 mlynedd ers ei eni , BBC Cymru Fyw, 10 Mawrth 2016.
  6. Manylion Elusen 'Ymddiriedolaeth Cronfa Gari'

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]