Ffars

Oddi ar Wicipedia
Ffars
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o theatr, genre comedi Edit this on Wikidata
Mathcomedi, theatre Edit this on Wikidata

Genre llenyddol yw'r Ffars (o'r Lladin farcire, 'llenwi i mewn, stwffio'), math o ddrama ysgafn a fwriedir i ddiddanu yn unig, heb soffistigeiddrwydd a deallusrwydd comedi. Bachwyd y gair yn Ffrainc yn yr Oesoedd Canol i ddisgrifio'r 'anterliwtiau' comig a berfformid i ddiddanu'r dorf rhwng actiau dramâu miragl hirfaith.

Fel rheol mae ffars yn cynnwys elfennau fel sefyllfeydd rhyfedd, cyd-digwyddiadau anghredadwy a gor-bwysleisio abswrd cymeriad a digwyddiad. Cafodd rhai o'r ffarsau gorau eu sgrifennu yn y 19g yn Ffrainc. e.e. gan Feydeau a Labiche.

Mae rhai elfennau'r ffars yn debyg i'r hyn a geir mewn pantomeim.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.