Neidio i'r cynnwys

Maureen Rhys

Oddi ar Wicipedia
Maureen Rhys
GanwydMaureen Jones Edit this on Wikidata
Cwm-y-glo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PriodJohn Ogwen Edit this on Wikidata

Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru yw Maureen Rhys (ganwyd 1944). Ganed yn Nghwm-y-glo, ger Caernarfon, Gwynedd. Magwyd gan ei nain, a mynychodd Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug. Astudiodd ym Mhrifysgol Bangor.[1][2]

Mae wedi gweithio fel actores ar lwyfan a theledu ers y 1960au. Mae wedi cydweithio'n aml gyda'i gŵr, yr actor John Ogwen. Perfformiodd gyda John yn nrama Y Tŵr gan Gwenlyn Parry, drama a gomisiynwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978.

Un o'i rhanau cyntaf ar deledu oedd yn y ddrama deledu Mr. Lolipop, M. A. gyda Charles Williams ym 1970.

Chwareodd Bet yn y ffilm Tywyll Heno, addasiad o nofel Kate Roberts. Bu'n portreadu Marged Vaughan yn Lleifior yr addasiad teledu cyntaf o Cysgod Y Cryman i BBC Cymru yn y 1960au a Greta yn y gyfres deledu Lleifior i S4C yn y 1990au.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]
Maureen Rhys a'i theulu

Priododd John Ogwen yn 1966, wedi'r ddau gyfarfod ym mhrifysgol Bangor tra'n cyd-actio yn y ddrama, Hanes Rhyw Gymro gan John Gwilym Jones ym 1964.[3] Mae ganddynt dri o blant ac maent yn byw ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.[4]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

(detholiad)

Theatr

[golygu | golygu cod]

Cwmni Theatr Cymru

Cwmni Theatr Gwynedd

Teledu a Ffilm

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Proffil John Ogwen. BBC Cymru.
  2.  Linda Roberts (9 Ionawr 2002). Portrait of an actress. Caernarfon Herald.
  3. 3.0 3.1 "John Ogwen a Maureen Rhys yn 80: Dathliad o fywyd a gyrfa". BBC Cymru Fyw. 2024-08-23. Cyrchwyd 2024-08-23.
  4.  Maureen O’Cwm?!. Caernarfon Online (19 Rhagfyr 2006). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.