Dyled Eileen
Enghraifft o'r canlynol | drama ![]() |
---|---|
Iaith | Cymraeg ![]() |
Drama Gymraeg ydy Dyled Eileen a ysgrifennwyd gan Angharad Tomos ac a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru.[1] Mae'r ddrama'n olrhain hanes safiad Eileen Beasley a'i gŵr Trefor.
Yn ystod ei thaith wreiddiol yn 2013 a pherfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol 2014 Elen Bowman oedd y cyfarwyddwr.
Perfformiwyd rhan Eileen Beasley fel hen ddynes gan yr actores Rhian Morgan. Caryl Morgan a berfformiodd rhan Eileen ifanc yn y daith wreiddiol, a Gwenllian Higginson yn ystod perfformiadau yn yr Eisteddfod.
Ceri Murphy oedd yr actor a berfformiodd rhan Trefor Beasley.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Theatr Genedlaethol Cymru
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-30. Cyrchwyd 2016-11-21.