Neidio i'r cynnwys

Yn Debyg Iawn i Ti a Fi

Oddi ar Wicipedia
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMeic Povey
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Ionawr 2000 Edit this on Wikidata
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9780863815973
Tudalennau76 Edit this on Wikidata
CyfresCyfres i'r Golau

Drama Gymraeg gan Meic Povey yw Yn Debyg Iawn i Ti a Fi. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2000, ac mae'n rhan o'r Gyfres I'r Golau. Drama hir i bedwar cymeriad yn trafod pwnc sgitsoffrenia. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws ym 1995, cyn i Theatr Genedlaethol Cymru ei ail-lwyfannu fel eu cynhyrchiad cyntaf yn 2003.

Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Teulu yn dod at ei gilydd ar ôl claddu'r fam, yw plot y ddrama, a'r broblem fawr i'w datrys yw pwy sy'n mynd i edrych ar ôl y mab sy'n dioddef o sgitsoffrenia.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Derec - y mab sgitsoffrenig
  • Olwen - ei chwaer
  • Glyn - ei frawd
  • Elin - gwarig Glyn

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

1990au

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws ym 1995.

  • Derec - Merfyn Pierce Jones
  • Olwen - Catherine Aran
  • Glyn - Maldwyn John
  • Elin -

2000au

[golygu | golygu cod]

Ail lwyfannwyd y ddrama yn 2003, fel cynhyrchiad agoriadol Theatr Genedlaethol Cymru. Ehangodd y cyfarwyddwr Cefin Roberts y ddrama wreiddiol, gan greu rhanau ychwanegol ar ffurf corws Groegaidd, i'w bedwar actor craidd. Cyfarwyddwr Cefin Roberts; cynllunydd; cast:

“Ar ddechrau cyfnod hanesyddol i ni fel cwmni mae medru llwyfannu drama mor bwerus â hon, gyda Bryn Fôn, Siw Hughes, Gwenno Hodgklns a Glyn Pritchard yn y cast, yn rywbeth cyffrous iawn“ meddai Cefin Roberts.[2] Dywedodd na fu'n anodd dewis y ddrama arbennig hon ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf : "Yr oedd yn hawdd, oherwydd mae'n chwip o ddrama - yn ddrama rymus," meddai gan gyfeirio'n arbennig at yr her yr oedd yn ei chynnig i actorion a chynulleidfa. "Yr oedd yn her inni gyd - ac mae hynny'n well na bod yn rhy sâff - ac fe gymerodd yr actorion yr her ac mae hynny gymaint gwell na chynnig rhywbeth hawdd dygymod â fo," meddai.[3]

Ymateb cymysg gafodd y cynhyrchiad; roedd hi'n anodd ei adolygu'n deg, gan ei fod yn ddathliad o gychwyn Theatr Genedlaethol newydd i Gymru ar un llaw, ac eto'n "gawl eildwym" i eraill, fel adolygydd theatr Y Cymro, Paul Griffiths.[4] Cael ei blesio wnaeth y darlledwr Jon Gower : "...Roedd yr actorion yn chwarae cyn dynned ag unrhyw bedwarawd llinynnol. [...] Marciau llawn i Cefin Roberts, y cyfarwyddwr artistig hefyd am greu noson wirioneddol theatrig gan ychwanegu at dduwch y sgwennu."[5]


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  2. "YN DEBYG IAWN I TI A FI - News and latest information on Theatre Dance and Performance in Wales - news, reviews, commentary, features and discussion". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-31.
  3. "BBC CYMRU'R BYD - Adloniant". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-31.
  4. Griffiths, Paul (2006-07-28). "Paul Griffiths: Theatr Genedlaethol Cymru - y ddwy flynedd gyntaf". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2024-08-31.
  5. "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-31.