Y Cylch Sialc
Enghraifft o'r canlynol | cyfieithiad, trosiad, addasiad |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1958 |
Awdur | Shelagh Williams |
Cyhoeddwr | CAA Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | 1991 |
ISBN | 9781856440868 |
Genre | drama lwyfan |
Teitl sawl cyfieithiad Cymraeg o ddrama Bertolt Brecht Der kaukasische Kreidekreis [The Caucasian Chalk Circle], yw Y Cylch Sialc. Addaswyd y ddrama am y tro cyntaf o'r Almaeneg wreiddiol gan Shelagh Williams ar gyfer Cwmni Theatr Gwynedd ym 1988. Cyhoeddwyd yr addasiad gan CAA Cymru ym 1991. Cafodd Mererid Hopwood ei chomisiynnu hefyd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2019, i drosi'r ddrama o'r Almaeneg, a defnyddiodd hithau yr un enw.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Drama oddi mewn i ddrama sydd yma yn y bôn. Mae'r ddrama'n cychwyn gyda rhyw fath o brolog sy'n ein cyflwyno i'r 'pentrefwyr' fydd, yn y man, yn perfformio'r ddrama sy'n ganolbwynt i'r stori. Gelwir y rhan cychwynol yn 'Y ddadl ynglŷn â'r dyffryn'. "Ymysg adfeilion pentref yn y Cawcasws, a ddinistriwyd gan y rhyfel, mae pobl yn eistedd mewn cylch yn yfed gwin ac yn ysmygu," yw cyfarwyddiadau cyntaf y ddrama.[1] "...aelodau ydynt o ddwy gymuned gydweithredol - gwragedd y rhan fwyaf, a gwŷr mewn oed - ond hefyd rhai milwyr. Gyda hwy mae arbenigwr o'r comisiwn cenedlaethol er ailddatblygu, a ddaeth o'r brifddinas."[1]
"Daeth cynrychiolwyr y fferm gydweithredol Galinsk, sef fferm magu geifr, i Nukha i'n gweld. Tra oedd byddin Hitler yn nesáu, gyrrodd ein cymrodyr o'r fferm honno eu geifr ymhellach i'r dwyrain ar orchymyn yr awdurdodau. Nawr maent â'u bryd ar symud yn ôl i'r dyffryn yma. Mae eu cynrychiolwyr wedi bwrw golwg dros y pentref a'r tiroedd a chanfod fod cryn dipyn o ddifrod wedi ei wneud. (Mae'r cynrychiolwyr ar y dde yn nodio'u pennau) Ar y llaw arall, mae aelodau'r fferm gydweithredol Rosa Luxemburg, fferm gyfagos sy'n tyfu ffrwythau (mae'n edrych i'r chwith) yn gwneud cais am gael defnyddio hen dir pori y fferm Galinsk - dyffryn â thyfiant prin o wair. Maent am gael ehangu eu perllannau a gosod gwinllan yno. Fel arbenigwr gyda'r comisiwn ailddatblygu, galwaf arnoch chi - aelodau o'r ddau bentref cydweithredol - i gytuno a ddylai'r fferm Galinsk symud yn ôl a'i peidio."[1]
Cyflwynir y "canwr Arkadi Tscheidse" sydd wedi "cyfarwyddo" y ddrama sydd am gael ei llwyfannu, "sydd â chysylltiad â'n problem":
"...drama gyda chaneuon sydd gennym, a phob aelod bron o'r gymuned yn cymryd rhan. Rydyn ni wedi dod â'r hen fygydau efo ni [...] 'Y Cylch Sialc ' yw enw'r chwedl ac fe ddaw o China. Addasiad ohoni fyddwn ni'n ei gyflwyno, rwy'n cyfaddef. Jura, dangos y mygydau. Gymrodyr, fe fydd yn anrhydedd i gael eich difyrru ar ôl y drafodaeth anodd a gawsom. Rydym yn gobeithio y clywch chi dinc o'r hen fardd hyd yn oed yng nghysgod y tractorau Sofietaidd. Maen nhw'n dweud na ddylid cymysgu gwinoedd, ond mae doethineb hen a newydd yn cymysgu'n ardderchog. [...] ...mae 'na ddwy stori. Rhyw gwpwl o oriau."[1]
Rhennir "y ddrama" yn bump golygfa:
- Y plentyn o dras
- Ar ffo i fynyddoedd y Gogledd
- Ym mynyddoedd y Gogledd
- hanes y Barnwr
- Y cylch sialc.
Gweler Der kaukasische Kreidekreis am grynodeb manwl o'r golygefydd.
Gorffenir y ddwy ddrama gyda'r geiriau:
"Chwithau, y rhai a glywodd hanes y cylch sialc -
Talwch sylw i gred yr hen bobl:
Dylai popeth berthyn i'r rhai sydd dda wrtho - Plant i'r rhai mamol, er mwyn iddynt brifio;
Ceirt i'r gyrwyr gorau, fel y cânt eu gyrru'n dda;
A dyffryn i'r rhai wnaiff ei ddyfrhau,
er mwyn iddo ddwyn ffrwyth.
A'r dyfodol i'r rhai â chalon ganddynt. Gobaith y bobl."[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ym 1958 y cyhoeddwyd y ddrama wreiddiol Der kaukasische Kreidekreis gan Shhrkamp Verlag, Berlin.[1]
Ganed Bertolt Brecht yn Augsburg ar 10 Chwefror 1898, a bu farw yn Berlin ar 14 Awst 1956. Wedi ei dröedigaeth at Farcsiaeth yn 1928 cyfansoddodd ei waith enwocaf, o bosibl, Die Dreigroschenoper (The Threepenny Opera), gyda cherddoriaeth gan Kurt Weill. Gadawodd Brecht yr Almaen yn 1933, pan ddaeth Hitler i rym, ac aeth i fyw i Lychlyn ac yna i'r Unol Daleithiau. Yn ystod y blynyddoedd hyn yr ysgrifennodd ei dramâu mwyaf grymus: Leben des Galilei (The Life of Galileo), Mutter Courage und ihre Kinder (Mother Courage and her Children) ac Y Cylch Sialc (Der kaukasische Kreidekreis). Yn fuan ar ôl dychwelyd i Ewrop yn 1947 sefydlodd ei Berliner Ensemble a chanolbwyntio yn bennaf ar gynhyrchu ei ddramâu ei hun.
"Roedd Brecht yn 'sgwennu am y werin ac ar gyfer y werin gan ddefnyddio dulliau a ffurfiau gwerinol - fel storiwyr a chaneuon - i adrodd ei stori, yn hytrach na dyfeisiadau a chonfensiynau'r Theatr Naturiolaidd. [...] Ynddi cawn olwg ar gymdeithas mewn anhrefn chwyldro, a'i rhesymeg yn ben i waered; ond rhesymeg da ydio hefyd ar adegau. Gwelwn hefyd gymeriadau o wahanol haenau'r gymdeithas, a'u gwendidau - ac ambell gipolwg ar eu godidowgrwydd, mewn "oes aur fer - bron yn oes o gyfiawnder." "[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Rhan gyntaf y ddrama:
[golygu | golygu cod]- ffermwr oedrannus (ar y dde)
- ffermwraig oedrannus (ar y dde)
- ffermwr ifanc (ar y dde)
- gweithiwr ifanc iawn (ar y dde)
- ffermwr oedrannus (ar y chwith)
- ffermwraig oedrannus (ar y chwith)
- arbenigwraig mewn amaethyddiaeth (ar y chwith)
- gyrrwr tractor (gwraig ifanc) (ar y chwith)
- milwr clwyfedig (ar y chwith)
- gweithwyr eraill o'r fferm gydweithredol, yn ddynion a gwragedd (ar y chwith)
- arbenigwyr o'r brifddinas
Cymeriadau y ddrama sy'n cael ei llwyfannu:
[golygu | golygu cod]- Y Canwr, Arkadi Tscheidse
- Ei gerddorion / offerynwyr
- Georgi Abaschwili, y rhaglaw
- Natella, ei wraig
- Michel, eu mab
- Shalva, cyrnol yng ngosgordd y rhaglaw
- Arsen Kazbeki, y tywysog tew
- Marchog, negesydd o'r brifddinas
- Niko Mikadze, meddyg
- Mikha Loladze, meddyg
- Simon Chachava, y milwr
- Grusche Vachnadze, morwyn yn y gegin
- Tri phensaer
- Pedair morwyn - Assja, Mascha, Sulika, Nina dew
- Nyrs / nani
- Cogyddes
- Cogydd
- Gwas stabl
- Gweision ym mhlasty'r rhaglaw
- Yr Helmau Duon a milwyr y rhaglaw a'r tywysog tew
- Cardotwyr ac ymbilwyr
- Hen ffermwr llaeth
- Dwy foneddiges
- Tafarnwr
- Gwas i'r tafarnwr
- Corpral
- 'Penrwdan', y milwr
- Gwraig fferm a'i gŵr
- Tri marsiandïwr
- Lavrenti Vachnadze, brawd Grusche
- Aniko, ei wraig
- Eu gwas
- Gwraig fferm, mam-yng-nghyfraith Grushe am gyfnod
- Jussup, ei mab
- Y Brawd Anastasius, mynach
- Gwahoddedigion y briodas
- Plant
- Azdak, clerc y plwyf
- Schauwa, heddwas
- Ffoadur, yr Archddug
- Meddyg
- Claf
- Dyn â herc
- Blacmeliwr
- Ludowica, merch-yng-nghyfraith y tafarnwr
- Hen wraig dlawd yn cadw tyddyn
- Irakli, ei brawd-yng-nghyfraith, gwylliad
- Tri ffermwr cefnog
- Illo Schuboladze, cyfreithiwr
- Sandro Obaladze, cyfreithiwr
- Pâr priod oedrannus.
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1980au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd addasiad Shelagh Williams am y tro cyntaf yn Theatr Gwynedd, Bangor ym 1988 gan Gwmni Theatr Gwynedd. Cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd Kim Kenny; cast: John Ogwen, Sera Cracroft, Fraser Cains, Bethan Dwyfor, Eirian Owen, Rhys Richards, Dyfan Roberts, Sian Wheldon, Llion Williams ac Eric Wyn[3].
Canmoliaeth annisgwyl oedd gan yr adolygydd theatr Dafydd Fôn yn Barn [Tachwedd 1988]:
"A phan glywais fod Cwmni Theatr Gwynedd am fentro ar un o ddramâu Brecht, y Marcsydd di-dderbyn-wyneb hwnnw a wyddai fod pob llenyddiaeth fawr yn bropaganda, ac a fanteisiai ar hynny, y dramodydd hwnnw a chwyldrôdd y theatr; pan glywais hynny, yr oeddwn wrth fy modd. Digon i'w feirniadu.[...] Ŵyr y Cymry ddim sut i sillafu 'glasnost' heb sôn am ei ystyr. Felly i ffwrdd â mi i Theatr Gwynedd, cant o bobol ieuainc ysgol uwchradd wrth fy nghwt, a'm cyllyll beirniadol yn hogedig. Ni fyddai imi unrhyw anhawster beirniadu'r Cylch Sialc. Ond damia Cwmni Theatr Gwynedd. Methais gael hyd i frychau. Yn anffodus bu raid imi fwynhau fy hun. Beth am y set? A fedrwn feirniadu honno. Rwy'n mynd ar fy Ilw o'ch blaenau, Mr. Golygydd, syr, imi'i harchwilio'n fanwl a'm chwydd-wydr liw, ond methais weld dim o'i le arni."[4]
"Cyfrifoldeb ofnadwy ydi adolygu drama ar gychwyn ei thaith," oedd cychwyn adolygiad Rhiannon Tomos yn Golwg [Hydref 1988] [2]; "...ond gorchwyl gwaeth fyth ydi ceisio cyfleu ehangder mawr Y Cylch Sialc ichi mewn ychydig eirau."[2]
"Petai'n rhaid imi wneud hynny mewn un, gair yna "cyforiog" fyddai hwnnw. Mae hi'n gyfoethog, ac mae hi'n foel; yn ddigri a dwys ar yr un gwynt; ac yn adrodd ei stori trwy gyfrwng nifer o ddamhegion - ond heb bregethu chwaith. Mae yna rywbeth o Hill Street Blues yma, lle daw'r abswrd a'r arswydus at ei gilydd i'n diddanu'n gywrain; ond cryfach na hynny yw'r ysbryd Cymraeg a Chymreig iawn drwyddi draw [...] A wir i chi, mae yna rywbeth o'r anterliwt yma hefyd - er na welwyd erioed yr un anterliwt o'r cymhlethdod a'r cywreinrwydd yma ar lwyfan Cymraeg o'r blaen [...] Mae'r cyfieithiad Cymraeg yn gyfuniad Ilwyddiannus o led-ffurfioldeb achlysurol Brecht, a Chymraeg llafar idiomatig a rhywiog. Mae'r Ilwyfannu yn eang a chyffrous, plethiad yr holl symudiadau'n haeddu ei alw'n goreograffi, a'r cyfarwyddo i'w ryfeddu. Seiliwyd y gerddoriaeth newydd wreiddiol ar ffurfiau traddodiadol Dwyrain Ewrop; sipsiaidd weithiau, ond byth yn siwgwrllyd. [...] Y ffaith amdani yw bod rhywbeth yn y cynhyrchiad yma i bawb, ac mae hi i fyny i chwi i weld beth a fynnwch. Mae'n ddrama gyfoethog y gellir ei mwynhau ar sawl lefel, er bod gofyn dipyn o stamina meddyliol i weld pob deigryn a phob pryfociad yn ystod ei thair awr a hanner - er y cytunai pawb bod yr amser hwnnw wedi hedfan heibio."[2]
2010au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd trosiad Mererid Hopwood gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2019. Cyfarwyddo Sarah Bickerton; cast Rebecca Hayes, Geraint Rhys Edwards, Siôn Eifion, Sara Harris-Davies, Noel James, Pınar Öğün, Glyn Pritchard, Mali Ann Rees a Gwenno Saunders.[5][6]
Canmoliaeth oedd gan yr adolygydd Tracey Rees-Cooke mewn adolygiad Saesneg yn y Wales Arts Review : “Mae’r cynhyrchiad Cymraeg hwn o Y Cylch Sialc yn rhyfeddol a rhaid canmol y cyfarwyddwr Sarah Bickerton a’r cyfieithydd Mererid Hopwood am y weledigaeth newydd hon [...] Mae ganddi hiwmor drygionus, tywyll [...] mae'r cynhyrchiad afieithus, bywiog a doniol hwn yn ensemble o'r safon uchaf. Mae'r cast yn gasgliad trawiadol gyda Rebecca Hayes yn disgleirio fel Grusha angerddol ac argyhoeddiadol [...] Gwylir ei holl frwydrau gan Gwenno, a gyfansoddodd 26 o ganeuon newydd ar gyfer y dehongliad hwn ac sy'n fath o arolygwr cerddorol" [7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Brecht, Berlot (1991). Y Cylch Sialc. Hughes / CAA. ISBN 1 85644 086 9.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Tomos, Rhiannon (13 Hydref 1988). "Brecht yr Anterliwt a Hill Street Blues". Golwg Cyf 1 rhif 6.
- ↑ Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Cylch Sialc 1988.
- ↑ Fôn, Dafydd (Tachwedd 1988). "Y Cylch Sialc". Barn 310.
- ↑ "Gwefan Theatr Genedlaethol Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-18. Cyrchwyd 2019-10-18.
- ↑ Brecht yn Gymraeg, Menna Baines. Barn Hydref 2019
- ↑ Rees-Cooke, Tracey (2019-10-20). "Y Cylch Sialc live at the Theatr Genedlaethol Cymru - Wales Arts Review". www.walesartsreview.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-17.