Elfed Roberts

Oddi ar Wicipedia
Elfed Roberts
Elfed Roberts, un o deilyngwyr yn yr adran 'Gwobr Diwylliant' (Gwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru), 2017.
GanwydGorffennaf 1949 Edit this on Wikidata
Pen-y-groes Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethprif weithredwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a gweithredwr busnes yw Elfed Roberts (ganwyd Gorffennaf 1949). Roedd yn brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1993 a 2018.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Elfed Roberts ym Mhen-y-groes ac fe'i addysgwyd yn ysgol gynradd y pentref ac Ysgol Dyffryn Nantlle.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gadawodd yr ysgol yn 17 oed ac aeth i weithio fel cyw newyddiadurwr gyda papurau'r Herald yng Nghaernarfon. Wedi 11 mlynedd o ysgrifennu i bapurau Cymraeg a Saesneg y cwmni, gadawodd y byd newyddiaduraeth i fynd i werthu bwydydd anifeiliaid i ffermwyr yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn.

Yn 1980 cafodd swydd fel swyddog datblygu yr Urdd yn Eryri, ac yna daeth yn drefnydd Eisteddfod yr Urdd yn y gogledd rhwng 1983 – 1985. Yn Ionawr 1985 symudodd i fod yn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gogledd ac yn Ebrill 1993 daeth yn brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymddeolodd o'r swydd yn Awst 2018 yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 gan basio'r awennau i'r prif weithredwr newydd, Betsan Moses.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod ag Eirian ac mae ganddynt un mab, Iwan Llŷr ac un ferch, Heledd Angharad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cadwynau - Elfed Roberts. BBC Cymru (Awst 2005). Adalwyd ar 1 Awst 2016.
  2. Chwilio am brif weithredwr newydd i’r Eisteddfod , Golwg360, 25 Tachwedd 2017.