Betsan Moses
Betsan Moses | |
---|---|
Ganwyd | Tachwedd 1971 Pontyberem |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | prif weithredwr, prif swyddog cysylltiadau cyhoeddus |
Cyflogwr |
Betsan Moses (ganwyd Tachwedd 1971) yw Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ers Mehefin 2018.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Mae Betsan Moses yn wreiddiol o Bontyberem yng Nghwm Gwendraeth. Aeth i Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa ac yna i Brifysgol Aberystwyth i astudio Theatr ac yn ddiweddarach gwnaeth radd Meistr mewn Caffael Iaith ym Mhrifysgol Cymru.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gweithiodd fel Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda cwmni Cennad ac yna fel Rheolwr Cyfrifon gyda StrataMatrix. Bu'n ddarlithydd yn Mhrifysgol y Drindod, Caerfyrddin ac yna Swyddog Dawns a Drama gyda Cyngor Celfyddydau Cymru. Ymunodd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ebrill 1999 gan dreulio 9 mlynedd yno fel Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata. Yn Chwefror 2009 dychwelodd i'r Cyngor Celfyddydau Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus.[3]
Fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn Chwefror 2018 a cychwynnodd ei swydd yn Mehefin 2018 gan gyd-weithio gyda Elfed Roberts drwy gyfnod Eisteddfod Caerdydd 2018.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Betsan Moses yn Brif Weithredwr newydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Eisteddfod Genedlaethol (8 Chwefror 2018).
- ↑ 2.0 2.1 Penodi prif weithredwr newydd yr Eisteddfod Genedlaethol , BBC Cymru Fyw, 8 Chwefror 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
- ↑ LinkedIn - Betsan Moses. LinkedIn. Adalwyd ar 13 Awst 2018.