Boobytrap Records
Enghraifft o'r canlynol | label recordio |
---|
Label recordio oedd Boobytrap Records, a sefydlwyd yng Nghaerdydd, Hydref 2000 gan Huw Stephens a'i ffrind Geraint John (Baz), gyda Ceri Collier a Greg Haver gynt o'r label Big Noise yn ymuno â nhw i redeg y label. Daeth y label i ben mis Ionawr 2007. Disgrifwyd y label gan y cylchgrawn Rolling Stone fel y label recordio orau erioed.
Dechreuwyd y label fel clwb senglau, yn recordio dwy gân gan fand newydd pob mis. Ond wedi gweld gwagle yn y farchnad, penderfynnwyd ehangu Boobytrap yn label recordio cyflawn, yn arbenigo mewn cerddoriaeth Gymraeg ond yn gweithio hefyd gyda fandiau o bob cwr o Brydain.
Y sengl gyntaf i'r label ryddhau oedd sengl Tommy and the Chauffeur o Gaerdydd. Fe rhyddawyd senglau gan MC Mabon, Zabrinski a Big Leaves ymysg eraill.
Fe ryddhawyd albwmau gan MC Mabon (Pryna Hwn Rwan Cyn i'r Boi Sgrynshio Clustie Ddod Rownd), Cofi Bach a Tew Shady (Chwalfa), Richard James (The Seven Sleepers Den) a'r albwmau amlgyfrannog A Step in the Left Direction a Ho! Ho! Ho! Casgliad o Ganeuon Nadoligaidd.
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- [1] Archifwyd 2007-02-11 yn y Peiriant Wayback Cyfweliad gyda Huw am Boobytrap ar wefan y BBC