Big Brother

Oddi ar Wicipedia
Big Brother
Logo rhyngwladol Big Brother
Enw amgenSecret Story
VIP Big Brother
Teen Big Brother
Bigg Boss
Ultimate Big Brother
GenreAdloniant
Teledu
Crëwyd ganJohn de Mol Jr.
Datblygwyd ganJohn de Mol Jr.
Endemol
Cyfansoddwr/wyrVanacore Music
GwladYr Iseldiroedd
DosbarthwrEndemol
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolVeronica
Darlledwyd yn wreiddiol16 Medi 1999 (1999-09-16) – presennol
Dolennau allanol
Big Brother ar Endemol

Mae Big Brother ("Y Brawd Mawr") yn un o'r rhaglenni teledu realiti mwyaf poblogaidd yn y byd. Ers y gyfres gyntaf ar y sianel deledu Veronica yn yr Iseldiroedd ym 1999 mae wedi lledaenu i bedwar ban y byd, yn cynnwys Prydain lle gwelwyd y gyfres gyntaf yno yn 2000. Gwelir fersiynau o'r sioe mewn bron 70 gwlad. Daw enw'r sioe o nofel 1949 George Orwell, Nineteen Eighty-Four.

Y Gêm[golygu | golygu cod]

Yr holl syniad yw bod grŵp o bobl cyffredin o ras, liw, rhyw a rhywioldeb gwahanol 12 yn draddiadol yn cael eu dewis gan dîm o gynhyrchwyr a seicologwyr i gyd-fyw mewn tŷ arbennig am nifer o wythnosau 10 yn draddiadol mewn ymgais i ennill gwobr. Mae eu holl weithredoedd yn cael eu ffilmio a'u darlledu i'r cyhoedd eu gwylio. Yn wythnosol mae rhaid i bob ‘housemate’ sef aelod o’r tŷ enwebu dau berson. Mae'r dau berson neu fwy sydd â’r nifer fwyaf o enwebiadau yn wynebu’r bleidlais gyhoeddus ac yna mae’r un sy’n derbyn y mwyaf o bleidleisiau’r cyhoedd yn cael ei daflu mas mewn ‘eviction’. Yr enillydd yw'r person olaf yn y tŷ ac felly maent yn ennill y wobr, sef swm sylweddol o arian ym mhob gwlad heblaw am Ffrainc a Chanada lle maent yn ennill y tŷ ei hun.

Y Rhaglen Brydeinig[golygu | golygu cod]

Yng ngwledydd Prydain dangoswyd y rhaglen yn wreiddiol ar Channel 4, a'i chynhyrchu gan Endemol. Yn y gyfres cyntaf ym Mhrydain yn 2000 roedd y tŷ wedi’i leoli yn ne Llundain lle arhosodd am ddwy flynedd. Yn y drydedd gyfres symudodd y tŷ i Elstree Studios lle mae wedi aros o hynny ‘mlaen. Roedd Davina McCall wedi cyflwyno'r rhaglen o’r dechrau gan gynnwys y dadfeddiant (eviction) wythnosol.

Yn 2010, gwelwyd y gyfres olaf o Big Brother yn cael ei darlledu ar Sianel Pedwar wrth i gytundeb y sianel gyda chwmni Endemol ddod i ben. Fodd bynnag, yn fuan wedi diwedd y gyfres cyhoeddodd Channel 5 eu bod wedi prynu'r hawliau darlledu i'r rhaglen ac y byddai cyfres newydd yn dechrau yn 2011. Dechreuodd y gyfres honno a oedd yn cynnwys nifer o enwogion yn y tŷ ar 18 Awst 2011. Yn 2018 cyhoeddwyd fod Channel 5 am beidio adnewyddu'r rhaglen a darlledwyd y gyfres olaf y flwyddyn honno gyda'r sioe derfynol yn cael ei ddangos ar 5 Tachwedd 2018.

Fersiynau[golygu | golygu cod]

Rhanbarth/Gwlad Enw
Mae enwau yn cyfieithu fel Y Brawd Mawr,
oddieithr penodedig.
Sianel
Affrica
(Angola, Botswana, Ghana,
Cenia, Malawi, Namibia,
Nigeria, De Affrica, Tansania,
Wganda, Sambia a Simbabwe)
Big Brother Africa
("Y Brawd Mawr Affrica")
M-Net
Albania Big Brother Top Channel
Yr Almaen Big Brother RTL
RTL II
Tele5
Premiere
9Live
Yr Ariannin Gran Hermano Telefe
Awstralia Big Brother Australia
("Y Brawd Mawr Awstralia")
Network Ten
Gwlad Belg Big Brother Kanaal Twee
Brasil Big Brother Brasil
("Y Brawd Mawr Brasil")
Rede Globo
Bwlgaria Big Brother NTV
Canada Loft Story
("Stori Croglofft")
TQS
Colombia Gran Hermano Rede Globo
Croatia Big Brother RTL
Denmarc Big Brother TV Danmark
Y Dwyrain Canol
(Bahrain, Yr Aifft, Irac,
Iorddonen, Cowait, Libanus,
Oman, Sawdi Arabia, Somalia,
Syria a Twnisia)
الرئيس (Al'Rais)
("Y Meistr")
MBC
Ecwador Gran Hermano Ecuavisa
Yr Eidal Grande Fratello Canale 5
Y Ffindir Big Brother Suomi
("Y Brawd Mawr Y Ffindir")
Sub
Ffrainc Loft Story
("Stori Croglofft")
M6
Gorllewin Balcanau
(Bosnia-Hertsegofina, Montenegro a Serbia)
Veliki brat Pink BH (Bosnia-Hertsegofina)
Pink M (Montenegro)
B92 (Serbia)
Gweriniaeth Tsiec Big Brother TV NOVA
Gwlad Groeg Big Brother ANT1
Gwlad Tai Big Brother Thailand
("Y Brawd Mawr Gwlad Tai")
iTV
Gwlad Pwyl Big Brother TVN (2001-2002)
TV4 (2007-2008)
Polsat (2010- nadal)
Hwngari Big Brother Nagy Testvér
("Y Brawd Mawr Y Brawd Mawr")
TV2
India Bigg Boss
("Meistr Mawr")
SET
Israel Ha'Ach Ha'Gadol Channel 2
Yr Iseldiroedd Big Brother Veronica (1999-2000)
Yorin (2001-2002)
Talpa (2005-2006)
Llychlyn
(Norwy a Sweden)
Big Brother Kanal5 (Sweden)
TVN (Norwy)
Mecsico Big Brother México Televisa
Nigeria Big Brother Nigeria M-Net
Norwy Big Brother Norge
("Y Brawd Mawr Norwy")
TVNorge
Pilipinas Pinoy Big Brother ABS-CBN
Portiwgal Big Brother TVI
Rwmania Big Brother Prima TV
Rwsia большой брат (Bol'shoy Brat) TNT
Slofacia Big Brother Súboj TV Markíza
Slofenia Big Brother Kanal A
De Affrica Big Brother South Africa
("Y Brawd Mawr De Affrica")
M-Net
Sbaen Gran Hermano Telecinco
Sweden Big Brother Sverige
("Y Brawd Mawr Sweden")
Kanal5
Y Swistir Big Brother Schweiz
("Y Brawd Mawr Y Swistir")
TV3
Rhanbarth Tawel
(Tsile, Ecwador a Pheriw)
Gran Hermano del Pacífico
("Y Brawd Mawr Y Tawel")
Telesistema (Ecwador)
RedTV (Tsile)
ATV (Periw)
Y Deyrnas Unedig Big Brother Channel 4
Unol Daleithiau Big Brother CBS

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato