Nineteen Eighty-Four
![]() | |
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | George Orwell |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg, Newspeak |
| Dyddiad cyhoeddi | 1949 |
| Dechrau/Sefydlu | 1948 |
| Genre | ffuglen wyddonol am gymdeithas, ffuglen wleidyddol, gwyddonias, ffuglen ddystopaidd |
| Rhagflaenwyd gan | Foel yr Anifeiliaid |
| Cymeriadau | Winston Smith, Julia, Big Brother, O'Brien, Emmanuel Goldstein, Charrington |
| Prif bwnc | gwyliadwraeth gorfodol gan y wladwriaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl, totalitariaeth |
| Statws hawlfraint | dan hawlfraint, dan hawlfraint, parth cyhoeddus |
| Lleoliad y gwaith | Llundain, Oceania |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0lz9s |

Nofel am fyd dystopig gan George Orwell yw Nineteen Eighty-Four (teitl y fersiwn Cymraeg: 'Mil Naw Wyth Deg Pedwar'). Cafodd ei hysgrifennu yn 1948 a'i chyhoeddi yn yr un flwyddyn. Caiff ei hystyried yn un o nofelau pwysicaf yr ugeinfed ganrif ac mae'r cysyniadau ynddo'n parhau i ddylanwadu diwylliant gyfoes.[1] Mae'r nofel wedi gwerthu miliynau o gopïau ar draws y byd ac wedi ei chyfieithu i dros 65 o ieithoedd, yn cynnwys y Gymraeg.[2]
Mae'r stori'n canolbwyntio ar gymeriad o'r enw Winston, sy'n gweithio yng Ngweinyddiaeth y Gwir (Saesneg: Ministry of Truth), a'i gyfataliad gan senedd dotalitaraidd gwlad Oceania, lle mae’n byw.
Mae effaith y llyfr yn amlwg ar yr iaith Saesneg, ac ieithoedd eraill. Mae'r ansoddair "Orwellian" yn cael ei ddefnyddio llawer pan fo pobl yn sôn am ddiogelwch y wlad a phreifatrwydd personol. Hefyd, mae'r geiriau "Mae'r Brawd Mawr yn eich gwylio chi" (Saesneg: "Big Brother is watching you") yn cael eu defnyddio gan bobol lle bynnag y siaredir Saesneg.
Fel Brave New World gan Aldous Huxley, mae Nineteen Eighty-Four wedi cael ei weld fel llyfr gwahanol a pheryglus i ddiogelwch gwladwriaethau. Oherwydd hyn, mae'r llyfr wedi cael ei wahardd mewn sawl gwlad.
Addasiad Cymraeg
[golygu | golygu cod]
Cyhoeddwyd Mil Naw Wyth Deg Pedwar, cyfieithiad Cymraeg o'r nofel gan y cyhoeddwr Melin Bapur yn Hydref 2025. Cyfieithwyd y nofel gan Adam Pearce. Yr her fwyaf yn ôl y cyhoeddwr oedd trosi'r newyddiaith, sef yr iaith "Newspeak" a ddefnyddir yn y llyfr.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "75 Years of 1984: Why George Orwell's Classic Remains More Relevant Than Ever". Literary Hub (yn Saesneg). 2024-06-24. Cyrchwyd 2025-10-30.
- ↑ McCrum, Robert (2009-05-09). "The masterpiece that killed George Orwell". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-10-30.
- ↑ "George Orwell classics Animal Farm and 1984 translated into Welsh". BBC Cymru (yn Saesneg). 2025-10-28. Cyrchwyd 2025-10-30.
