Glyn Wise
| Glyn Wise | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Ionawr 1988 Blaenau Ffestiniog |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyflwynydd radio, athro |
Offeiriad a phersonoliaeth teledu o Gymru yw Glyn Thomas Wise (ganwyd 9 Ionawr 1988). Daeth i amlygrwydd fel cystadleuydd ar raglen realiti Big Brother 7 lle ddaeth yn ail. Mae'n hanu o Flaenau Ffestiniog. Bu hefyd yn gyflwynydd radio ar BBC Radio Cymru, yn ymgeisydd gwleidyddol ac athro.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, Gwynedd, mynychodd Ysgol y Moelwyn cyn symud i Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst lle roedd yn Brif Fachgen.[1] Tra oedd yn yr ysgol, bu'n gweithio fel achubwr bywyd rhan amser yn ei bwll nofio lleol.[2]
Yn 2008 aeth i astudio am radd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd gan ennill radd 2:1 yn 2011.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymddangosiad ar Big Brother
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd ar raglen realiti Saesneg Big Brother 7, a bu'n aml yn siarad yn Gymraeg â'i gyd-gystadleuydd Imogen Thomas - cyfieithwyd eu sgyrsiau gydag is-deitlau.
Tra yn y tŷ dysgodd Glyn nifer o sgiliau yn y gegin, megis berwi wy - dathlodd hyn drwy ganu cân yn fyr-fyfyr. Dysgodd cyd-gystadleuydd, Richard, ef sut i olchi'i ddillad. Newidiodd ei steil gwallt yn aml tra yn y tŷ, ynghyd â Pete, gan ei gadw'n flêr, ei eillio a'i liwio yn lliwiau gwahanol. Yn y rownd derfynol daeth Glyn yn ail, gyda 38.8% o'r bleidlais.
Cyfryngau
[golygu | golygu cod]Yn dilyn ei ymadawiad o'r tŷ, ymddangosodd Glyn ar nifer o raglenni teledu a radio Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys ar sianeli S4C a Radio Cymru.
Rhwng 2007 a 2011 roedd yn gyflwynydd rheolaidd ar raglen C2 Radio Cymru, i'w glywed ar yr awyr bob nos Fercher a nos Iau gyda Magi Dodd rhwng 8 a 10 y nos.[4] Mae wedi ymddangos mewn hysbyseb yn y ddwy iaith, yn hybu rhoi gwaed. Animeiddiwyd Glyn ar gyfer cartŵn S4C, Cnex.[5] Cyflwynodd raglen Planed Plant ar 30 Hydref 2006.[6] Ymddangosodd fel mentor ar raglen The Big Welsh Challenge yn 2007, yn dysgu Di Botcher i siarad Cymraeg mewn 12 mis. Roedd Glyn wedi datgan ei awydd i fod yn athro Cymraeg yn nhŷ Big Brother.[7]
Lansiodd Glyn ei lyfr Blwyddyn Fawr Glyn Wise yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai 2007. Golygwyd y llyfr gan Beca Brown, ac mae'r llyfr yn un hunangofiannol â phwyslais ar ei flwyddyn ers gadael Big Brother.[8]
Byd Addysg
[golygu | golygu cod]Yn 2012, cafodd swydd fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhydywaun.[9] Yn 2014, cychwynnodd swydd newydd fel Swyddog Lled Ffurfiol yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a'r Fro.[10] Yn Hydref 2016 aeth i weithio yn Shanghai, Tsieina fel athro Saesneg.[11]
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Yn 2015, dewiswyd Glyn fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016 ar gyfer etholaeth Canol Caerdydd. Daeth yn bedwerydd yn yr etholiad gyda 1,951 (7.5%) o bleidleisiau.[12] Ym mis Awst 2016 cyhoeddodd ei fod wedi penderfynu gadael Plaid Cymru am nad oedd yn rhannu "yr un weledigaeth ar gyfer dyfodol ein gwlad" gyda'r blaid.[13]
Yr Eglwys yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Ers yn ifanc roedd Glyn yn mynd i'r Ysgol Sul ac i Eglwys y Bowydd ym Mlaenau Ffestiniog. Yn y brifysgol roedd yn mynd i'r Eglwys, i'r Undeb Gristnogol ac i'r Christian Union. Dywedodd mai ei gyfnod yn Tsieina a ddylanwadodd fwyaf arno o ran ei ffydd Gristnogol. Yn Ebrill 2022 cafodd ei dderbyn i hyfforddi fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.[14] Treuliodd dair blynedd yn cael ei hyfforddi i fod yn offeiriad yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd, ac treuliodd gyfnodau yn Eglwys San Silyn yn Wrecsam a Llangollen. Cafodd ei ordeinio fel offeiriad yn Mehefin 2025
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lleol i Mi: Glyn Wise - Cyflwynydd radio a wnaeth ei enw fel cystadleuydd ar Big Brother. BBC.
- ↑ BLWYDDYN WEDI'R BRAWD MAWR; Gwenan Davies ar helyntion Glyn ac Imogen ers gadael y Ty , Daily Post, 2 Mehefin 2007. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2016.
- ↑ Glyn yn codi 2:1 ar ei feirniaid , Golwg360, 19 Gorffennaf 2011.
- ↑ Cyflwynwyr: Glyn Wise. BBC Cymru.
- ↑ Cnex.
- ↑ Glyn Wise presenting S4C Welsh children's TV programme 'Planet Plant', Wales, Britain - 30 Oct 2006.
- ↑ Celebrity Team: Glyn Wise. The Big Welsh Challenge, BBC.
- ↑ Glyn Wise (Mai 2007). gol. Beca Brown: Blwyddyn Fawr Glyn Wise. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845271039. URL
- ↑ Big Brother's Glyn Wise gets a new job as Welsh teacher at secondary school (en) , 6 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2012.
- ↑ Hoffen ni eich cyflwyno chi i'r Swyddog Lled-ffurfiol newydd, Glyn Wise! (15 Medi 2014).
- ↑ Off to #china for a year! Going to be an English teacher in #shanghai #Pudong #exciting times! 10.5 hours flight though! #ugh!. Instagram (19 Hydref 2016). Adalwyd ar 22 Hydref 2018.
- ↑ Canol Caerdydd. BBC Cymru Fyw.
- ↑ Glyn Wise yn gadael Plaid Cymru , Golwg360, 26 Awst 2016.
- ↑ "Glyn Wise: 'Edrych ymlaen at yr her newydd'". BBC Cymru Fyw. 2022-04-10. Cyrchwyd 2025-07-31.