Ffion Dafis
| Ffion Dafis | |
|---|---|
| Ganwyd | 1 Chwefror 1971 Bangor |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, ysgrifennwr |

Actores, cyfarwyddwr, awdur a chyflwynydd teledu a radio o Gymru yw Ffion Dafis (ganwyd 1 Chwefror 1971).[1] Mae'n adnabyddus am ei gwallt cyrliog, ac fe'i gelwir yn aml yn Ffion Gwallt.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Mae Ffion Dafis yn hanu'n wreiddiol o bentref Dolwyddelan ond pan yn 8 oed symudodd y teulu i Fangor pan gafodd ei thad swydd fel prifathro Ysgol y Garnedd.[2] Mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Tryfan. Aeth ymlaen i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu'n cyflwyno y rhaglen gylchgawn i bobl ifanc i-dot ar S4C yn ystod y nawdegau. Yn ddiweddarach, bu'n chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani! sef drama am dîm rygbi merched, cyfres yn seiliedig ar nofel o'r un enw gan Bethan Gwanas.
Bu'n cyflwyno rhaglenni radio C2 gyda'r nos rhwng 2008 a 2009, ac roedd i'w gweld yn aml yn cyflwyno rhaglenni teledu S4C o Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n rhan o gynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru, Deffro'r Gwanwyn yn 2011.
Mae ei gyrfa fel actores ar y teledu ac ar lwyfan wedi bod yn llawn ac amrywiol, rhwnwg monologau, rôl fel Siwan yn nrama Saunders Lewis a'r Fonesig Macbeth yn nrama William Shakespeare, heb sôn am rannau mewn rhaglenni megis Rownd a Rownd a Byw Celwydd.
Yn 2018 cyhoeddodd y llyfr Syllu ar Walia', cyfrol o ysgrifau hunangofiannol ffraeth, er fod y cyflwyniad yn egluro "Nid hunangofiant ydy hwn". Cyhoeddodd Ffion ei nofel gyntaf, Mori, yn Nhachwedd 2021 (gwasg Y Lolfa, ISBN 9781800991897).[3]
Ers 2022, mae'n Gadeirydd cwmni Pyst, cwmni sy'n hybu'r celfyddydau.[4] Yn Ebrill 2023, cafodd swydd fel cyflwynydd rhaglen am y celfyddydau ar Radio Cymru bob pnawn Sul, ac mae hi wedi troi hefyd at gyfarwyddo.[5]
Ym mis Medi 2025 cyhoeddwyd y bod wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws, ac yn cychwyn y swydd yn Ionawr 2026.[6]
Gwaith ddethol
[golygu | golygu cod]Fel actores
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- Branwen (2008) Llwyfan Gogledd Cymru
- Macbeth - Theatr Genedlaethol Cymru
- Amdani! - Cwmni Theatr Gwynedd
- Deffro'r Gwanwyn (2011) Theatr Genedlaethol Cymru
- Siwan
Ffilm a Theledu
[golygu | golygu cod]- Amdani (1999 – 2005)
- Rownd a Rownd
- Byw Celwydd
- i-dot
Fel cyfarwyddydd
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]Fel awdures
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dewi Llwyd ar Fore Sul - Ffion Dafis - gwestai penblwydd - BBC Sounds". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-02-12.
- ↑ "Ateb y Galw: Ffion Dafis". BBC Cymru Fyw. 2016-10-24. Cyrchwyd 2026-02-13.
- ↑ "Llyfrau gan Ffion Dafis". www.gwales.com. Cyrchwyd 2026-02-12.
- ↑ "Pennaeth a bwrdd newydd i gwmni sy'n hybu'r celfyddydau". BBC Cymru Fyw. 2022-12-16. Cyrchwyd 2024-02-14.
- ↑ "Radio Cymru: Ffion Dafis i gyflwyno rhaglen wythnosol newydd". BBC Cymru Fyw. 2023-02-19. Cyrchwyd 2024-02-14.
- ↑ "Ffion Dafis wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws". Cyngor Celfyddydau Cymru. 16 Medi 2025. Cyrchwyd 11 Chwefror 2026.