Dulog (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Dulog
Albwm stiwdio gan Brigyn
Rhyddhawyd Rhagfyr 2015

Albwm gan y ddeuawd cerddoriaeth acwstig Cymraeg Brigyn yw Dulog. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2015.

Record arbennig i ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa yw Dulog, â’r brodyr Ynyr ac Eurig Roberts wedi bod yn cydweithio â dau frawd o Batagonia, Alejandro a Leonardo Jones o Drevelin ar ei chreu.

Dewiswyd Dulog yn un o ddeg albwm gorau 2015 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

Fy hoff drac...ydi ‘Fan Hyn (Aquí)’. Dyma gân sy’n defnyddio Cymraeg a Sbaeneg, ac er yn gwbl Sbaeneg ei naws mae’r alaw yn medru swnio mor gynhenid o Gymreig

—Elain Llwyd, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]