Candelas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Candelas 2013.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dod i'r brig2009 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2009 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Candelas yn fand Cymreig o Lanuwchllyn, Gwynedd, sy'n chwarae cerddoriaeth roc. Sefydlwyd y band yn 2009 a rhyddhawyd eu record fer gyntaf yn 2011 dan yr enw Kim Y Syniad.[1][2] Roedd y gerddoriaeth ar y record hon wedi ei ysbrydoli gan fandiau fel The Strokes a Kings of Leon ond roedd eu hail record (eu halbwm cyntaf a enwyd ar ôl y band) yn cynnwys cerddoriaeth galetach wedi ei hysbrydoli gan fandiau fel Arctic Monkeys, Queens of the Stone Age a Band of Skulls.

Ers 2013, maent yn ymddangos fel rhan o gynllun BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n datblygu cerddoriaeth fandiau newydd ac annibynnol yng Nghymru.[3]

Enillodd y band 3 gwobr yng Ngwobrau'r Selar am y Gân Orau, Record Hir Orau a'r Band Gorau. Adlewyrchodd hyn lwyddiant y band yn 2013 a'n sicr, roedd yn hwb i ddyfodol y grŵp. Rhyddhawyd eu hail albwm ar yr 8fed o Ragfyr, 2014, o dan yr enw Bodoli'n Ddistaw.

Enillodd y drymiwr Lewis Williams yr offerynnwr gorau yn ngwobrau y Selar 2013 am ei waith gyda Candelas a Sŵnami. Yn 2016 recordiodd y band ei fersiwn o'r gân "Rhedeg i Paris" fel 'anthem hâf' i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.

Maent hefyd wedi bod yn weithgar yn Dydd Miwsig Cymru.

Aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Candelas 2015.jpg
  • Osian Huw Williams (Llais a Gitâr)
  • Ifan Jones (Gitâr a Llais Cefndir)
  • Gruffydd Edwards (Gitâr a Llais Cefndir)
  • Tomos Edwards (Gitâr Fas)
  • Lewis Williams (Drymiau)

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Senglau[golygu | golygu cod y dudalen]

Teitl Rhyddhawyd
"Cynt a’n Bellach" 2014
"Dim Cyfrinach" 2014
"Ddoe, Heddiw, a 'Fory" 2017
"Gan Bo Fi'n Gallu" 2018
"O! Mor Effeithiol" 2018

Albymau ac EP[golygu | golygu cod y dudalen]

Teitl Hyd Label Rhyddhawd
Kim Y Syniad (EP) 19:40 cynyrchiadau Peno 2011
Candelas 44:33 cynyrchiadau Peno 2013
Bodoli'n Ddistaw[4] 39:56 I Ka Ching 2014
Wyt Ti'n Meiddio Dod I Chwarae? 54:12 I Ka Ching 2018

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cerddoriaeth Gymraeg; adalwyd 11 Awst 2014.
  2. Gwefan iTunes; adalwyd 11 Awst 2014
  3. Gwefan y BBC; Archifwyd 2014-08-12 yn Archive.is adalwyd 11 Awst 2014.
  4. "Llanuwchllyn band rock the cinema to launch new album". Denbighshire Free Press. 23 Rhagfyr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-30. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]