Neidio i'r cynnwys

Menter Caerdydd

Oddi ar Wicipedia

Prif nod Menter Caerdydd yw hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol yn y Brif Ddinas, gan sicrhau bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd Caerdydd a bod pob dinesydd yn rhannu’r cyfrifoldeb am ei dyfodol a’i ffyniant.

Sefydlwyd y fenter yn 1998. Roedd y swyddfa wreiddiol yn Tŷ'r Cymry yn Gordon Road, Y Rhath ond symudodd i Ystum Taf yn yr fuan wedi dyfodiad Siân Lewis er mwyn cael proffil mwy gweledol.[1]

Prif Weithredwr y Fenter rhwng 2003 a 2018 oedd Siân Lewis. Yn ystod ei chyfnod hi cynyddodd trosiant y Fenter o £36,000 i bron £750,000 a'r incwm i bron £250,000.[1]

Yn 2006 cychwynodd y Fenter gŵyl gerddoriaeth a diwylliant Gymraeg, Tafwyl. Cynhaliwyd y Tafwyl gyntaf g ngardd cefn hen dafarn y Mochyn Du ger Canolfan Chwaraeon Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Sophia Caerdydd gyda chyllideb o £2,500. Aeth yn ei flaen i'w chynnal yng ngerddi Castell Caerdydd a chyillideb, yn 2018, o £150,000.[1]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Beti a'i Phobl Siân Lewis". BBC Radio Cymru. 29 Ebrill 2018.