maes-e
Gwedd
| URL | maes-e.com |
|---|---|
| Slogan | heb y barnu, na'r cystadlu |
| Masnachol? | hysbysebion |
| Math o wefan | Fforwm trafod |
| Cofrestru | Dewisol |
| Ieithoedd ar gael | Cymraeg |
| Perchennog | Hedd Gwynfor |
| Crëwyd gan | Nic Dafis |
| Lansiwyd ar | 18 Awst 2002 |
| Statws cyfredol | Segur |
Gwefan Gymraeg boblogaidd ar ffurf fforwm trafod oedd maes-e, a sefydlwyd gan Nic Dafis ar 18 Awst 2002. Gellir trafod yn Gymraeg bopeth dan haul, gan gynnwys cerddoriaeth, cyfrifiadureg, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth, a materion cyfoes. Cafodd y wefan ei henwi ar ôl cân o'r un enw gan y band Datblygu. Gweinyddwyd y wefan gan Nic Dafis tan 31 Rhagfyr 2007 pan drosglwyddwyd hi i ddwylo Hedd Gwynfor ar 1 Ionawr 2008.
Ers 2017 mae'r wefan yn bodoli fel archif ond nid yw'n bosib i gofrestru cyfrifon newydd.