Dyfodol i'r Iaith

Oddi ar Wicipedia
Dyfodol i'r Iaith
Enghraifft o'r canlynolgrŵp pwyso Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.dyfodol.net/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mudiad amhleidiol yw Dyfodol i'r Iaith a'i nod yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd Cymru a bod y Gymraeg yn parhau yn fater byw ar yr agenda wleidyddol. Mae'n fudiad pwyso a lobio ac yn gweithredu drwy ddulliau cyfansoddiadol yn unig ac yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, Cynghorau Sir, y pleidiau gwleidyddol, arweinwyr cyrff cyhoeddus ac eraill i roi'r Gymraeg wrth galon eu polisïau a'u gweithgareddau.

Hanes a Chefndir[golygu | golygu cod]

Cychwynnwyd y mudiad mewn cyfarfod ym Mehefin 2012 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gymraeg Tŷ Tawe, Abertawe. Roedd y bwrdd cychwynnol yn cynnwys Heini Gruffudd, Simon Brooks, Richard Wyn Jones, Robat Gruffudd, Emyr Lewis, Elin Wyn a Huw Edwards.  Etholir swyddogion mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol, lle gall unrhyw aelod fynegi barn a rhoi cynigion gerbron o ran ffocws a pholisïau'r mudiad.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus cyntaf y mudiad yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 gyda Beti George, Angharad Mair ac Emyr Lewis (bardd) yn annerch.

Y Bwrdd a Staff[golygu | golygu cod]

Cadeirydd presennol y mudiad yw Heini Gruffudd[1] ac fe gyflogir Prif Weithredwr, Ruth Richards[2], a Swyddog Datblygu, Meinir James. Ar y bwrdd (2021) mae Eifion Lloyd Jones, Iwan Edgar, Osian Rhys, Wyn Thomas, Cynog Dafis, Robat Gruffudd, Catrin Alun, Elaine Edwards a Heini Gruffudd. Bu Beti George, Angharad Mair, Elinor Jones, a Bethan Jones Parry’n llywyddion y mudiad yn eu tro.

Cyllido[golygu | golygu cod]

Mae’n fudiad annibynnol ac amhleidiol gyda’i unig incwm yn dod oddi wrth gyfraniadau a thâl aelodaeth unigolion a chwmnïau sy’n rhannu ei weledigaeth.

Ymgyrchu[golygu | golygu cod]

Ers ei sefydlu mae’r mudiad wedi ymgyrchu a dylanwadu o blaid:

  • Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
  • Sefydlu ail sianel radio boblogaidd
  • Cael y Gymraeg yn rhan o’r broses Cynllunio Tai
  • Sefydlu Canolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Rhoi pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg yn gymunedol ac addysgiadol
  • Sefydlu yr egwyddor o gynllunio ieithyddol cyfannol mewn perthynas â’r Gymraeg

Mae Dyfodol i’r Iaith yn aelod o’r grŵp ymbarél Dathlu’r Gymraeg

Yn 2019 cyhoeddodd y Mudiad Cynllunio Adferiad y Gymraeg, gan Cynog Dafis, sy’n nodi blaenoriaethau’r mudiad ym maes cynllunio iaith.  Defnyddiwyd yr egwyddorion hyn pan gyhoeddwyd Troi Dyhead yn Realiti[3] – Gofynion Dyfodol i’r Iaith ar gyfer Senedd Cymru 2021-2026 yn Nhachwedd 2020 sy’n nodi gweledigaeth y mudiad ar gyfer Etholiad Senedd Cymru, 2021.

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y Llywodraeth yn sefydlu Awdurdod Iaith hyd braich a fydd ag adnoddau digonol i lywio dyfodol y Gymraeg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pwy ydym ni | Dyfodol i'r Iaith". Cyrchwyd 2021-06-24.
  2. "Dyfodol i'r Iaith yn penodi prif weithredwr". BBC Cymru Fyw. 2015-01-05. Cyrchwyd 2021-06-24.
  3. "Polisïau | Dyfodol i'r Iaith". Cyrchwyd 2021-06-24.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]