Beti George
Beti George | |
---|---|
Ganwyd |
19 Ionawr 1939 ![]() Coed-y-bryn ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
newyddiadurwr ![]() |
Cyflogwr |
Newyddiadurwraig a darlledwraig o Gymraes yw Beti George (ganwyd 19 Ionawr 1939). Mae wedi cyflwyno'r rhaglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ers 1987.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ganwyd yng Nghoed-y-bryn, ger Llandysul mewn cymuned bron yn uniaith Gymraeg. Roedd ei mam wedi bod yn forwyn a roedd ei thad yn wehydd. Yn y 1930au nid oedd ei thad yn gallu dod o hyd i waith a roedd rhaid iddo symud i Pendyrus a gweithio dan ddaear. Yn ei ysgol gynradd, Beti oedd yr unig blentyn a basiodd yr arholiad 11+ a mynychodd Ysgol Gynradd Llandysul. Hi oedd y cyntaf yn ei theulu i allu fynd i'r brifysgol ac fe aeth i astudio Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Aeth i ddysgu mewn ysgol gynradd yn Aberystwyth ac yna mewn ysgol ramadeg yn Aberhonddu am gyfnod.[1]
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn y 1970au cynnar cychwynodd ei gyrfa yn y cyfryngau pan cafodd swydd gyda'r BBC yn Abertawe fel gohebydd ar ei liwt ei hun i'r rhaglen Bore Da. Yn yr 1980au bu'n cyflwyno rhaglen Newyddion gyda Gwyn Llewelyn.[2]. Roedd hefyd yn un o brif gyflwynwyr y rhaglenni etholiadol yn yr 80au.
Bu'n cyflwyno nifer o raglenni eraill ar S4C yn cynnwys Ar y Bocs a Sbectrwm (rhaglenni yn trafod y cyfryngau), a nifer fawr o raglenni cerddorol yn cynnwys Lleisiau Cymru, Byd Cerdd, Cadwyn Carolau a Meistri Fienna.
Roedd yn un o gyflwynwyr cyfres DNA Cymru; darlledwyd rhaglen arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi 2015 a dangoswyd cyfres o bedwar rhaglen yn Nhachwedd a Rhagfyr 2015.[3][4]
Mae hi wedi cyflwyno rhaglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ers 1987[5], lle mae Beti yn sgwrsio gyda gwestai gwahanol bob wythnos.
Yn 2016 derbyniodd y Wobr am Gyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru. Yn Awst 2017, enillodd Wobr Geraint Stanley Jones am "ei chyfraniad i gyfathrebu cerddoriaeth trwy ddarlledu".[6]
Mae’n Gymrawd Prifysgol Cymry y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru.
Ar ddiwedd 2020 fe'i enwebwyd ar gyfer MBE ond fe'i gwrthododd.[7]
Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ei phartner hyd ei farwolaeth yn Ebrill 2017 oedd yr awdur a darlledwr David Parry-Jones a roeddent yn byw yng Nghaerdydd. Ers 2009 roedd ei chymar yn dioddef o'r afiechyd Alzeheimer a bu Beti yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn y cyfryngau Cymreig. Fe ddarlledwyd rhaglen am yr afiechyd Un o Bob Tri ar S4C [8] ac fe gyflwynodd raglen The Dreaded Disease - David's Story ar Radio Wales.[9] Cyflwynodd hefyd y ddogfen Beti and David:Lost for Words a ddarlledwyd ar y BBC ar draws Prydain.
Mae ganddi fab, Iestyn George a oedd yn newyddiadurwr a golygydd cerddoriaeth ar gylchgronau yr NME a GQ.[10] Mae e nawr yn ddarlithydd ym mhrifysgol Brighton.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Beti George at 80: 'She's still at the peak of her journalistic powers' , WalesOnline, 20 Ionawr 2019.
- ↑ BBC (11 Rhagfyr 2013). Beti George. BBC. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.
- ↑ Datgelu canlyniadau DNA hynafiadol Angharad Mair yn fyw ar Heno
- ↑ Cymru DNA Wales – Y Prosiect; Adalwyd 2015-11-29
- ↑ Sarah Hill (11 Rhagfyr 2013). Desert Island Discs, Beti a'i Phobol, and Britishness. BBC. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.
- ↑ CLIP SAIN: Beti George yn derbyn Gwobr Geraint Stanley Jones , Golwg360, 5 Awst 2017.
- ↑ Beti George: 'Dyw byw eich hun yn ystod pandemig ddim yn sbort' , BBC Cymru Fyw, 21 Ionawr 2021.
- ↑ S4C (11 Rhagfyr 2013). Un o Bob Tri - Beti George. S4C. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.
- ↑ BBC (11 Rhagfyr 2013). The Dreaded Disease - David's Story. BBC. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.
- ↑ Many things define former GQ music editor Iestyn George, as Sarah Welsh discovered