Iestyn George

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Iestyn George
Ganwyd Ionawr 1966 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Man preswyl Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Westminster Edit this on Wikidata
Galwedigaeth newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr o Gymro yw Iestyn Dyfed George (ganwyd Ionawr 1966) a fu'n gweithio fel golygydd newyddion ar gylchgronau NME a GQ a sydd nawr yn ddarlithiwr ym Mhrifysgol Brighton.

Fe'i magwyd yn ardal Mayals, Abertawe ac aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera ac yna Prifysgol Westminster lle graddiodd gyda BA mewn Astudiaeth'r Cyfryngau.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod y 1990au, roedd George yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn y NME,[2] a daeth yn olygydd newyddion.[3] Roedd yn rheolwr marchnata ar gyfer y band Manic Street Preachers rhwng 1999 a 2003.[4] Erbyn 2001, roedd George hefyd yn olygydd cerddoriaeth ar gyfer cylchgrawn GQ,[5] , a daeth yn ddirprwy olygydd ar gylchgrawn Golf Punk.[6]

Symudodd i Gaerdydd yn 1999 a helpodd i lansio clwb cerddoriaeth Barfly yn y ddinas. Rhwng 2000 a 2003 cyflwynodd y rhaglen gerddoriaeth Y Sesiwn Hwyr ar S4C.[1]

Daeth yn olygydd cylchgrawn Rio yn 2009; daeth y syniad o greu'r cylchgrawn o chwaraewr Manchester United Rio Ferdinand, a weithredodd fel pen-olygydd.[7] Rhwng 2012 a 2014 bu'n ddarlithydd Newyddiaduraeth Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Southampton Solent.[8]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Iestyn yn fab i'r ddarlledwraig Beti George.[9] Mae'n frawd-yng-nghyfraith i gyd-sylfaenydd cylchgronau Loaded a Golf Punk, Tim Southwell.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 By George!; A Swansea Jack who came to love Cardiff, a music fanatic who `looked normal', a writer who `indirectly brought Posh and Becks together'. Many things define former GQ music editor Iestyn George, as Sarah Welsh discovered (en) , South Wales Echo, 7 Medi 2002. Cyrchwyd ar 29 Rhagfyr 2017.
  2. Moore, Sam (23 Mawrth 2016). "RIP Phife Dawg: A Look Back At A Tribe Called Quest’s ‘The Low End Theory’" (yn en). NME. http://www.nme.com/blogs/nme-blogs/rip-phife-dawg-a-look-back-at-a-tribe-called-quest-s-the-low-end-theory.
  3. "Iestyn George" (yn en). Visit Wales. http://www.visitwales.com/authors/iestyn-george.
  4. Wood, Chris (18 Medi 2015). "Was 1999 the year that helped shape modern Wales?" (yn en). BBC News. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-34249118.
  5. "Cardiff set to be recreation capital" (yn en). BBC News. 27 Mehefin 2001. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/1410180.stm.
  6. George, Iestyn (26 Mawrth 2005). "Golf gets to grips with a new generation" (yn en). Financial Times. http://www.ft.com/cms/s/0/e4230004-a0b9-11d9-a3ba-00000e2511c8.html#axzz461lEE700.
  7. Reynolds, John (15 Ionawr 2009). "Manchester United's Rio Ferdinand launches digital magazine" (yn en). MediaWeek. http://www.mediaweek.co.uk/article/873919/manchester-uniteds-rio-ferdinand-launches-digital-magazine.
  8. Reid, Alastair. "8 ways to make the most of your journalism course" (yn en). Journalism.co.uk. p. 29 Hydref 2014. https://www.journalism.co.uk/news/8-ways-to-make-the-most-of-your-journalism-course/s2/a562953/.
  9. Hitt, Carolyn (17 Mawrth 2012). "Carolyn Hitt: "Merv the Swerve was a god in our house"" (yn en). Wales Online. http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/carolyn-hitt-merv-swerve-god-2034321.
  10. "The Questionnaire: Tim Southwell" (yn en). Sports Journalists' Association. http://www.sportsjournalists.co.uk/the-questionnaire/the-questionnaire-tim-southwell/.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]