Y Sesiwn Hwyr
Gwedd
| Y Sesiwn Hwyr | |
|---|---|
| Genre | Cerddoriaeth |
| Cyflwynwyd gan | Iestyn George |
| Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Nifer cyfresi | 3 |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 30 munud |
| Cwmnïau cynhyrchu |
Avanti |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
| Rhediad cyntaf yn | 2000-2003 |
Rhaglen gerddoriaeth i bobl ifanc oedd Y Sesiwn Hwyr a ddarlledwyd ar S4C o 2000 hyd at 2003. Cyflwynwyd y gyfres gan Iestyn George a weithiodd i gylchgrawn N.M.E. yn y 1990au. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Avanti a fe'i ffilmiwyd yn eu stiwdio bwrpasol, y Ffatri Bop ym Mhorth, y Rhondda.[1]
Roedd sawl band yn chwarae yn fyw yn y stiwdio ymhob rhaglen a byddai Iestyn George yn sgwrsio neu gyfweld a'r band o flaen llaw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gang Bangor. BBC Cymru (20 Hydref 2000). Adalwyd ar 29 Rhagfyr 2017.