Geraint Stanley Jones

Oddi ar Wicipedia
Geraint Stanley Jones
Ganwyd26 Ebrill 1936 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 2015 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethaelod o fwrdd, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Darlledwr o Gymro oedd Geraint Stanley Jones, CBE (26 Ebrill 193625 Awst 2015). Rhwng 1981 a 1989, roedd Jones yn Reolwr BBC Cymru, lle bu'n goruchwylio lansio sianel deledu Gymraeg S4C yn 1982. Bu Jones hefyd yn gwasanaethu fel prif weithredwr S4C rhwng 1989 a 1994.[1][2]

Wedi astudio ym Mhrifysgol Bangor cychwynodd Jones ei yrfa ddarlledu yn 1960 fel rheolwr stiwdio deledu ar gyfer BBC Cymru. Cafodd ei ddyrchafu i fod yn gynhyrchydd teledu gan weithio ar y rhaglen gylchgrawn Heddiw. Gweithiodd ar raglenni nodwedd a dogfen cyn cael ei benodi fel Dirprwy Pennaeth Rhaglenni BBC Cymru yn 1974 a Pennaeth Rhaglenni BBC Cymru yn 1974. Bu'n gyfrifol am oruwchwylio sawl cyfres deledu nodedig yn ystod ei gyfnod gan gynnwys Ryan a Ronnie, The Life and Times of David Lloyd George (1981), a Grand Slam. Cefnogodd Pobol y Cwm, yr opera sebon Cymraeg hirhoedlog, a gychwynnodd ddarlledu ar BBC Cymru ym mis Hydref 1974 (ac yna ei drosglwyddo i S4C ym 1982 ar greadigaeth y sianel). Bu hefyd yn goruchwylio lansio BBC Radio Cymru ym 1977 a BBC Radio Wales yn 1978.

Yn 1981, gadawodd Rheolwr BBC Cymru, Owen Edwards, ei swydd i weithio ar lansiad y darlledwr cyhoeddus Cymraeg newydd, S4C a'i olynydd oedd Geraint Stanley Jones. Fe wnaeth Jones helpu i sefydlu S4C, gan ddechrau cyfnod newydd cyffrous ym myd teledu Cymraeg.

Goruchwyliodd Jones y gwaith o greu cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, a gychwynodd yn 1983, yn ystod ei gyfnod fel Rheolwr BBC Cymru.

Yn ddiweddarach daeth Jones yn brif weithredwr S4C rhwng 1989 a 1994. Cafodd ei enwi yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am ei wasanaeth i ddarlledu, yn enwedig am deledu a radio yn yr iaith Gymraeg, yn 1993. Ymddeolodd o S4C ym 1994.

Yn ogystal, gwasanaethodd Jones fel aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, ac fel is-lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bu hefyd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr ar gyfer nifer o sefydliadau, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, canolfan  gelfyddydau yng Nghaerdydd, ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Bu farw ar 25 Awst 2015 yn 79 oed.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas, Huw (26 Awst 2015). "Geraint Stanley Jones, former head of BBC Wales and S4C, dies". BBC Wales. Cyrchwyd 2015-09-20.
  2. "Former BBC Wales and S4C head Geraint Stanley Jones dies". Wales Online. 26 Awst 2015. Cyrchwyd 2015-09-20.
  3.  Geraint Stanley Jones, (1936-2015). RTS (14 Tachwedd 2015). Adalwyd ar 16 Mai 2017.