David Parry-Jones
David Parry-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 25 Medi 1933 Pontypridd |
Bu farw | 10 Ebrill 2017 o clefyd Alzheimer Penarth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Sylwebydd chwaraeon ac awdur o Gymro oedd David Parry-Jones (25 Medi 1933 – 10 Ebrill 2017). Bu'n gyflwynydd am gyfnod hir ar BBC Wales Today a roedd yn gyn ddadansoddwr rygbi ar gyfer BBC Radio 5. Roedd yn awdur nifer o lyfrau am rygbi, gan gynnwys nifer am hanes y gamp yng Nghymru.[1]
Bywyd a gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Parry-Jones ym Mhontypridd ar 25 Medi 1933.[2] Ar ôl mynychu ysgol yng Nghaerdydd, aeth i Goleg Merton, Rhydychen yn 1952, lle bu'n darllen y Clasuron a roedd yn gapten ar dimau rygi'r undeb Greyhounds a thimau criced y coleg. Wedi cwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, yn 1959 cychwynodd ei yrfa newyddiadurol ac aeth ymlaen i fod yn un o sylwebyddion rygbi mwyaf adnabyddus y BBC, yn fwyaf nodedig am ei ddisgrifiad o fuddugoliaeth enwog Llanelli dros y crysau Duon yn 1972.[3] Dywedodd ei gyfaill a chyd-sylwebydd Huw Llywelyn Davies ei fod yn un o "hoelion wyth y byd darlledu chwaraeon yng Nghymru".
Roedd Parry-Jones yn bartner hirdymor y ddarlledwraig Beti George a roeddent yn byw yng Nghaerdydd. Ers 2009 bu'n dioddef o glefyd Alzheimer, a bu Beti yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn y cyfryngau Cymreig. Yn 2013 darlledodd S4C raglen am y clefyd, Un o Bob Tri,[4] a cyflwynodd Beti y rhaglen, The Dreaded Disease - David's Story, ar BBC Radio Cymru.[5] Ym mis Chwefror 2017, cynhyrchodd BBC Cymru raglen ddogfen, Beti and David: Lost for Words, oedd yn dilyn y cwpl dros nifer o fisoedd, yn edrych ar yr heriau a'r rhwystredigaethau a wynebir gan filoedd o ofalwyr ledled Cymru.[6]
Bu farw Parry-Jones ar 10 Ebrill 2017, mewn hosbis ym Mhenarth.[7]
Detholiad gwaith
[golygu | golygu cod]- The Dawes Decades: John Dawes and the Third Golden Era of Welsh Rugby (2006)
- The Gwilliam Seasons: John Gwilliam and the Second Golden Era of Welsh Rugby (2003)
- Prince Gwyn: Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby (1999)
- Action Replay – A Media Memoir (1993)
- The Rugby Clubs of Wales (1989)
- Rugby Remembered: From the Pages of the Illustrated London News (1988)
- Out of the Ruck (1986)
- Boots, Balls and Banter: Collection of Rugby Stories (1980)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hands, David (18 Ionawr 2003). "Gwilliam's legacy to Welsh rugby underplayed again". The Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-24. Cyrchwyd 2017-04-10. More than one of
|work=
a|newspaper=
specified (help) - ↑ Levens, R.G.C., gol. (1964). Merton College Register 1900-1964. Oxford: Basil Blackwell. t. 437.
- ↑ Jasper Rees (9 March 2017). "Beti and David: Lost for Words: the more people that watch this film the better – review". The Telegraph. Telegraph Media Group Limited. Cyrchwyd 10 Mawrth 2017.
- ↑ S4C (11 December 2013). "Un o Bob Tri - Beti George". S4C (yn Welsh). Cyrchwyd 14 Medi 2016. More than one of
|author=
a|last=
specified (help)CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ BBC (11 Rhagfyr 2013). "The Dreaded Disease - David's Story". BBC. Cyrchwyd 14 Medi 2016. More than one of
|author=
a|last=
specified (help) - ↑ "Beti and David: Lost for Words". BBC. Cyrchwyd 10 Mawrth 2017.
- ↑ Y darlledwr David Parry-Jones wedi marw , BBC Cymru Fyw, 10 Ebrill 2017.