Neidio i'r cynnwys

Robat Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Robat Gruffudd
GanwydRobert Paul Griffiths Edit this on Wikidata
27 Chwefror 1943 Edit this on Wikidata
y Rhondda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
TadJohn Gwyn Griffiths Edit this on Wikidata
MamKate Bosse-Griffiths Edit this on Wikidata

Cyhoeddwr ac awdur yw Robat Gruffudd (ganed Robert Paul Griffiths, 27 Chwefror 1943)[1] a sefydlodd wasg Y Lolfa, un o'r gweisg mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Mae'n fab i Kate Bosse Griffiths a'r Athro John Gwyn Griffiths, ac yn frawd i Heini Gruffudd.[2][3] Ganed yn 1943 yn y Rhondda, a'i fagu yn Abertawe. Yn 1964 graddiodd yng ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor mewn athroniaeth a seicoleg. Ond gwrthododd dderbyn y radd fel protest yn erbyn gwrthgymreigrwydd awdurdodau'r coleg.[4]

Sefydlodd y cylchgrawn dychanol Lol gyda Penri Jones yn 1965, a gwasg gyhoeddi ac argraffu Y Lolfa yn Nhal-y-bont, Ceredigion, yn 1967. Dau o'i feibion, Garmon Gruffudd a Lefi Gruffudd, yw rheolwyr presennol y wasg. Mae ei fab hynaf, Einion, yn Reolwr Clyweled ac Archif Ddarlledu yn Y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae wedi cyhoeddi pedair nofel. Enillodd ei nofel Y Llosgi Wobr Goffa Daniel Owen yn 1986, ac roedd ei ail nofel Crac Cymraeg ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 1996. Cyhoeddodd y nofel, Carnifal yn 2004, ac yn 2013 enillodd Wobr Goffa Daniel Owen eto gyda'i nofel Afallon. Mae hefyd wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, Trên y Chwyldro (1974) ac A Gymri di Gymru? (2009). Yn 2016, cyhoeddodd Lolian[5], y dyddiadur anffurfiol a gadwodd dros yr hanner canrif diwethaf.

Yn 2007 enillodd wobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad oes i'r byd llyfrau Cymraeg. Bu am gyfnod ar fwrdd Dyddiol Cyf., y cwmni oedd wedi gobeithio sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd. Mae'n aelod o fwrdd Dyfodol i'r Iaith ac yn parhau i weithio yng ngwasg Y Lolfa.

Gwrthod gradd Prifysgol

[golygu | golygu cod]

Ar 20 Gorffennaf 1964 camodd Robat Gruffudd ar lwyfan Neuadd Pritchard Jones, Bangor i dderbyn ei radd gan Goleg y Brifysgol, Bangor, aeth at y meicroffon a dywedodd: "Gwrthodaf dderbyn gradd Prifysgol Cymru am i'r Brifysgol wadu'r iaith Gymraeg…" Roedd hyn yn dilyn y Brotest Dawel dros Gymreigio'r Brifysgol ym Mangor, naw mis ynghynt a deiseb y Brifysgol. Yn ei gyfrol Lolian[6] mae'n ansicr a wnaeth y peth cywir, ond "fe aeth popeth yn iawn, fel gweithred, diolch i Owain Owain a drefnodd y cyfan yn filitaraidd fanwl."[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Cofnod cyfarwyddwr Cwmni Drwg o Dy'r Cwmnïau. Adalwyd ar 2 Mawrth 2016.
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig
  3. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t.336
  4. Adroddiad allan o Dafod y Ddraig: .
  5. Gwefan Y Lolfa[dolen farw]
  6. Robat Gruffudd, Lolian (Y Lolfa; 2016), t.23
  7. Geraint Jones, Brwydr yr Iaith, 1962-67 (Y Lolfa, 2025), t.67
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.