Richard Wyn Jones
Richard Wyn Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Mai 1966 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwyddonydd gwleidyddol, sylwebydd gwleidyddol, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Methiant Prifysgolion Cymru ![]() |
Perthnasau | Enid Wyn Jones ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Fellow of the Academy of Social Sciences ![]() |
Academydd a sylwebydd gwleidyddol yw Richard Wyn Jones (ganwyd 26 Mai 1966). Yn 2009 cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n adran o fewn Prifysgol Caerdydd ac sydd hefyd a chysylltiad partneriaethol â Senedd Cymru; mae'r Ganolfan wedi'i lleoli, bellach, yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i magwyd ym mhentref Penmynydd ar Ynys Môn.[2] Mynychodd Ysgol Gyfun David Hughes cyn iddo ddilyn cwrs economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1984. Graddiodd gyda BSc Econ ac yna MSc Econ mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1989.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar wleidyddiaeth gyfoes Cymru, gwleidyddiaeth ddatganoledig a chenedlaetholdeb. Roedd yn un o sylfaenwyr Critical Security Studies. Ysgrifennodd golofn achlysurol yn Barn, a chyflwynodd ddwy gyfres deledu i'r BBC.
Mae'n sylwebu'n gyson ar faterion gwleidyddol i'r BBC yn Gymraeg ac yn Saesneg.[3]
Roedd yn ddarlithiwr yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth rhwng 1993 a 2009 ac yn Athro yn yr adran rhwng 2007 a 2009. Symudodd i Prifysgol Caerdydd yn Chwefror 2009 pan ddaeth yn Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru. Fe'i penodwyd yn Athro Gwleidyddiaeth Cymru yn Mehefin 2010.
Rhwng 2013 a 2023 roedd yn Ddeon Materion Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd.[4]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Methiant Prifysgolion Cymru, Medi 2004 (Sefydliad Materion Cymreig) ISBN 9781871726329
- Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Medi 2007 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 9780708317563
- Wales Says Yes, Mawrth 2012 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 9780708324868
- Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru - Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth, Gorffennaf 2013 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 9780708326503
- The Fascist Party in Wales?: Plaid Cymru, Welsh Nationalism and the Accusation of Fascism, Ebrill 2014 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 9781783160563 (addasiad Saesneg o'r llyfr Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru - Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cardiff.ac.uk; adalwyd 6 Rhagfyr 2020.
- ↑ "Y Llyfrau ym Mywyd Richard Wyn Jones". Golwg360. 2021-07-25. Cyrchwyd 2025-03-03.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-10. Cyrchwyd 2016-01-15.
- ↑ "Yr Athro Richard Wyn Jones - Pobl - Prifysgol Caerdydd". Cardiff University. Cyrchwyd 2025-03-03.