Neidio i'r cynnwys

Gwobrau’r Selar

Oddi ar Wicipedia
Gwobrau’r Selar
Enghraifft o:gwobr cerddoriaeth Edit this on Wikidata

Mae Gwobrau’r Selar yn cael eu dyfarnu'n flynyddol am y gerddoriaeth roc a phop Gymraeg orau, gan y cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg, Y Selar.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Dosbarthwyd y gwobrau gyntaf yn 2010, mewn deg categori, a phleidleisiwyd trwy wefan Y Selar, tan ddyddiad cyhoeddi rhifyn mis Mawrth o'r cylchgrawn.

Bob mis Chwefror ers 2014, cynhaliwyd y digwyddiad gwobrau mewn digwyddiad 'byw' ym Mhrifysgol Aberystwyth, o flaen cynulleidfa o 500 i ddechrau,[1] gan gynyddu i 700 yn 2015. Dywedodd y trefnwyr bod gynulleidfa o bron i 1,000 ym mis Chwefror 2016.

Gwahoddir enwebiadau tan fis Rhagfyr bob blwyddyn, ar gyfer y deuddeg categori, gyda'r panel gwobrau yn dewis rhestr hir ohonynt. Yna cynhelir pleidlais gyhoeddus gan ddefnyddio ap Facebook.[2]

Canllawiau

Er mwyn i bandiau fod yn gymwys mae rhaid fod o leiaf 50% o gerddoriaeth Cymraeg, er enghraifft mae'n rhaid i albwm 10 trac gynnwys o leiaf 5 yn yr iaith Gymraeg. Mae rhaid hefyd i'r albwm neu trac gael ei rhyddhau (nid oes hawl bod ar gael i ffrydio yn unig) yn ystod flwyddyn y gwobr.[2]

Enillwyr

[golygu | golygu cod]
  • Sengl Orau 2008: Chaviach / Bwthyn – Derwyddon Dr Gonzo
  • EP Orau 2008: Edrych yn Llygaid Ceffyl – Cate Le Bon
  • Casgliad Gorau 2008 (Goreuon / Aml-gyfrannog): Atgof fel Angor – Geraint Jarman
  • Clawr Gorau 2008: Rhwng y Llygru a’r Glasu – Gai Toms
  • Cân Orau 2008: Organ Aur Huw – Eitha Tal Ffranco
  • Albwm Gorau: Y Capel Hyfryd – Plant Duw

Cyflwynwyd ar 2 Mawrth 2013.[3]

Cyflwynwyd ar 15 Chwefror 2014.[4]

Cyflwynwyd ar 21 Chwefror 2015.[5]

Cyflwynwyd ar 20 Chwefror 2016.[6]

Cyflwynwyd ar 18 Chwefror 2017.[7]

Cyflwynwyd ar 17 Chwefror 2018.[8]

Cyflwynwyd ar 16 Chwefror 2019.[9]

Cyflwynwyd ar 14/15 Chwefror 2020.[10]

Cynhaliwyd dros rhaglenni BBC Radio Cymru rhwng 8-11 Chwefror 2021 oherwydd pandemig COVID-19.[11]

  • Seren y Sin: Mared Williams
  • Gwaith Celf (Noddir gan Y Lolfa): Cofi 19
  • Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion): Malan
  • Artist Unigol Gorau: Mared
  • Cân Orau (Noddir gan PRS for Music): ‘Hel Sibrydion’ – Lewys
  • Gwobr 2020 (Noddir gan Heno): Eädyth
  • Record Fer: Dim ond Dieithryn – Lisa Pedrick
  • Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi-Sant): Gwenno
  • Fideo Gorau (Noddir gan S4C): Dos yn Dy Flaen – Bwncath
  • Band Gorau: Bwncath
  • Record Hir Orau (noddir gan Rownd a Rownd): Bwncath II – Bwncath

Cyflwynwyd ar 17 Chwefror 2022[12]

  • Cân Orau (Noddir gan PRS for Music): Llyn Llawenydd – Papur Wal
  • Band neu Artist Newydd 2021: Morgan Elwy
  • Seren y Sin 2021: Marged Gwenllian
  • Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Cashews Blasus – Y Cledrau
  • Artist Unigol Gorau: Mared
  • Gwobr 2021 (Noddir gan Heno): Merched yn Gwneud Miwsig
  • Record Fer Orau (noddir gan Dydd Miwsig Cymru): Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig – Los Blancos
  • Record Hir Orau 2021: Amser Mynd Adra – Papur Wal
  • Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi-Sant): Tecwyn Ifan
  • Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Theatr – Sŵnami
  • Band Gorau: Papur Wal

Cyflwynwyd ar 23 Chwefror 2023[13]

  • Gwaith Celf Gorau – Sŵnamii – Sŵnami
  • Artist Unigol Gorau – Mared
  • Band neu Artist Newydd Gorau – Dom James a Lloyd
  • Cân Orau (Noddi gan PRS for Music) – Eto – Adwaith
  • Band Gorau – Adwaith
  • Seren y Sin – Owain Williams (Klust)
  • Fideo Cerddoriaeth Gorau – Drama Queen – Tara Bandito
  • Record Fer Orau – Crescent – Thallo
  • Record Hir Orau – Seren – Angharad Rhiannon
  • Gwobr Cyfraniad Arbennig – Lisa Gwilym
  • Gwobr 2022 – Izzy Rabey

Cyflwynwyd ar 15 Chwefror 2024 [14]

  • Cân Orau: ‘Bolmynydd’ – Pys Melyn
  • Gwaith Celf: Fel Hyn Fel Arfer – Y Cledrau
  • Artist Unigol Gorau: Malan
  • Band neu Artist Newydd Gorau: Dadleoli
  • Band Gorau: Fleur de Lys
  • Fideo Gorau: ‘Hotel’ – Gwcci
  • Record Fer Orau: Diwrnodau Haf – Dadleoli
  • Record Hir Orau: Dim Dwywaith – Mellt
  • Seren y Sin: Criw Tin Sardines
  • Cyfraniad Arbennig: Gai Toms
  • Gwobr 2023: Tara Bandito

Cyflwynwyd ar 1 Mawrth 2025.[15]

  • Cân Orau: ‘Unfan’ – Buddug
  • Gwaith Celf Gorau: ‘Dub yn y Pub’ – Morgan Elwy
  • Artist Unigol Gorau: Buddug
  • Band neu Artist Newydd Gorau: Buddug
  • Band Gorau: Cowbois Rhos Botwnnog
  • Seren y Sin: Yws Gwynedd
  • Fideo Cerddoriaeth Gorau: ‘Unfan’ – Buddug
  • Record Fer Orau: ‘Dyweda, Wyt Ti’ – Taran
  • Record Hir Orau: ‘Mynd â’r Tŷ am Dro’ – Cowbois Rhos Botwnnog
  • Gwobr 2024: Georgia Ruth
  • Cyfraniad Arbennig: Gorwel Owen

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Hat-tric i Candelas yng Ngwobrau'r Selar". Golwg360. 2014-02-17. Cyrchwyd 2021-02-08.
  2. 2.0 2.1 "Canllawiau Gwobrau'r Selar". Y Selar. 2018-03-07. Cyrchwyd 2021-02-08.
  3. Selar, Y. (2013-03-03). "Llawn dop yng ngwobrau'r Selar". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  4. Selar, Y. (2014-02-16). "Hat-tric i Candelas yn Ngwobrau'r Selar". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  5. Selar, Y. (2015-02-22). "Cyhoeddi enillwyr Gwobrau'r Selar". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  6. Selar, Y. (2016-02-24). "Pedair o Wobrau'r Selar i Sŵnami". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  7. Selar, Y. (2017-02-19). "Enillwyr Gwobrau'r Selar: Y Bandana'n brif enillwyr". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  8. Selar, Y. (2018-02-18). "Gwobrau'r Selar: Pedair Gwobr i Yws". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  9. Selar, Y. (2019-02-17). "Gwobrau lu i Gwilym". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  10. Selar, Y. (2020-02-16). "Gwilym yn brif enillwyr Gwobrau'r Selar". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  11. Selar, Y. (2021-02-12). "Wythnos Gwobrau'r Selar yn dathlu artistiaid Cymru". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  12. Selar, Y. (2022-02-17). "Gwobrau'r Selar yn dathlu llwyddiant cerddoriaeth Gymraeg". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  13. Selar, Y. (2023-02-24). "Cyhoeddi holl enillwyr Gwobrau'r Selar 2022". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  14. Selar, Y. (2024-02-16). "Enillwyr Gwobrau'r Selar 2023 yn gyflawn". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.
  15. Selar, Y. (2025-03-02). "Buddug yn brif enillydd Gwobrau'r Selar". Y Selar. Cyrchwyd 2025-03-15.