Mark Roberts
Mark Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 3 Tachwedd 1967 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gitarydd, cyfansoddwr caneuon |
Cerddor Cymreig yw Mark Roberts (ganwyd 3 Tachwedd 1967) sy'n adnabyddus am fod yn aelod o fandiau Y Cyrff a Catatonia.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Roberts yn Llanrwst a bu'n canu a chwarae'r gitâr ers ei arddegau gyda band lleol Y Cyrff. Ar ôl cyfarfod Cerys Matthews fe ffurfiodd Catatonia ynghyd â Paul Jones.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd yn honni am nifer o flynyddoedd ei fod wedi taro ar draws Matthews yn clera yng Nghaerdydd ac wedi cynnig llinyn gitâr iddi,[2] a ddatblygodd i'r ddau ffurfio band, ond mewn gwirionedd roedden nhw mewn perthynas tymor hir pan ffurfiwyd y band. Roedd stori'r llinyn wedi ei greu gan ei swyddog cyhoeddusrwydd. Fe wnaeth ei gwahaniad ddod i ben a'i phartneriaeth ysgrifennu, ac o hynny ymlaen Roberts oedd yn bennaf gyfrifol am ran fwyaf o eiriau caneuon y band.
Yn Catatonia, roedd Roberts yn rhannu'r gwaith ysgrifennu caneuon gyda Matthews, wrth chwarae gitâr a chanu llais cefndir. Ar ôl i Gatatonia ddod i ben, fe wnaeth peth gwaith cynhyrchu recordiau, ac ynghyd â Paul Jones fe ffurfiodd Sherbet Antlers (wedi ei ymuno gyda John Griffiths a Kevs Ford o Llwybr Llaethog).
Aeth Roberts a Jones ymlaen i ffurfio band Y Ffyrc, sy'n anagram o Y Cyrff. Erbyn 2012 roedd Roberts wedi ffurfio band The Earth gyda Dionne Bennett (gynt o The Peth) a Dafydd Ieuan (o'r Super Furry Animals).
Yn 2018 roedd Roberts wedi dechrau cynllunio prosiect dan yr enw artist Mr a'r albwm Oesoedd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Biography: Catatonia. Allmusic. Adalwyd ar 29 Mai 2010.
- ↑ "North Wales: Ca - Cl | link2wales.co.uk". link2wales.co.uk. Cyrchwyd 2015-12-26.
- ↑ https://selar.cymru/2018/mark-cyrff-i-ryddhau-albwm-unigol/