Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Math | sefydliad |
---|---|
Sefydlwyd | 17 Hydref 1976 |
Pencadlys | Bangor |
Gwefan | https://www.cyfieithwyr.cymru |
Sefydlwyd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar 17 Hydref 1976 pan gyfarfu 13 cyfieithydd yn Aberystwyth. Cymdeithas wirfoddol ydyw a gwelwyd ei hangen wrth i'r Swyddfa Gymreig ac ambell gyngor sir a sefydliadau cyhoeddus eraill ddechrau cyflogi cyfieithwyr a sefydlu unedau cyfieithu. Mae swyddfa'r Gymdeithas ym Mangor.
Hanes y Gymdeithas
[golygu | golygu cod]Yn 1976, roedd tua 20 o bobl yn gyfieithwyr amser-llawn yng Nghymru a sefydlwyd y gymdeithas er mwyn trafod materion perthnasol a chysoni arferion cyfieithu a thermau.[1] Ers 2003 mae'n gwmni cyfyngedig. Ei bwriad yw arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol. Hi yw'r unig gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg, boed gyfieithwyr testun neu'n gyfieithwyr ar y pryd.
Sefydlwyd trefn asesu ar gyfer ymaelodi â’r Gymdeithas yn 1989 a threfn arholi ar gyfer Aelodaeth Sylfaenol yn 1998, trefn arholi ar gyfer Aelodaeth Gyflawn yn 2003, a threfn asesu CAP yn 2005.
Derbyniodd y Gymdeithas nawdd ariannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg am y tro cyntaf yn 1997 a chgyflogwyd Swyddog Gweinyddol rhan-amser. Yn 1999 daeth y swydd honno’n un amser-llawn, ac yn 2001 penodwyd Cyfarwyddwr. Yn 2001, gwnaed Dr Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones yn Llywyddion anrhydeddus "fel cydnabyddiaeth o'u gwaith arloesol yn cyd-olygu Geiriadur yr Academi".
Yn 2003 corfforwyd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Cyf. yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif cofrestredig 4741023. Ers hynny, rheolir y Gymdeithas gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a etholir o blith yr aelodau. Cadeirydd cyfredol y Gymdeithas yw Claire Richards a'r Prif Weithredwr y Gymdeithas yw Geraint Wyn Parry.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cyfieithwyr.cymru; adalwyd 17 Hydref 2016.