Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Maelor 1961

Oddi ar Wicipedia

Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Dyffryn Maelor 1961
Archdderwydd Trefin
Cadeirydd Dr B. Haydn Williams
Llywydd Syr T. H. Parry-Williams
Enillydd y Goron L. Haydn Lewis
Enillydd y Gadair Emrys Edwards
Y Fedal Ryddiaith ataliwyd y wobr
Medal/Tlws y Ddrama Gwilym Thomas Hughes

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Maelor 1961 yn Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych (Bwrdeistref Sirol Wrecsam bellach). Yn yr Eisteddfod hon, ffurfiwyd yr Undeb Celtaidd gan Gwynfor Evans, J. E. Jones, Alan Heusaff ac eraill.

J. T. Jones oedd yn golygu'r Cyfansoddiadau a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer.[1]

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth BeirniaidTeitl y DarnFfugenwEnw
Y Gadair Meuryn, Gwilym R. Tilsley a G. J. Williams.[1]Awdl Foliant i Gymru"Cymro i'r Carn"Emrys Edwards
Y Goron J. M. Edwards, Euros Bowen a T. H. Parry-Williams[1]Ffoadur"Y Crëyr Glas"L. Haydn Lewis
Y Fedal Ryddiaith Kate Roberts, Islwyn Ffowc Elis a John Gwilym Jones[1]--Ataliwyd y Fedal [ond hanner y wobr ariannol i "Mietra" - "Ni chafwyd yr enw priodol"].[1]
Tlws y Ddrama John Gwilym Jones Plant y Niwl "Gwallter Berwyn" Gwilym Thomas Hughes

Daeth "William Gwenlyn Parry" yn gyd-fuddugol ar gystadleuaeth "Y Ddrama Fer" gyda'r ddrama, Y Ddraenen Fach.[1] Roedd yn 29 oed ar y pryd, a dyma'r ddrama fer gyntaf a gyhoeddwyd ganddo, a hynny yn y gyfrol Tair Drama ym 1965 gan Wasg Gee.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. 1 2 3 4 5 6 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Maelor 1961. Llys yr Eisteddfod / Gomer. 1961.
  2. ↑ "Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru". darganfod.llyfrgell.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-14.