Alan Heusaff
Alan Heusaff | |
---|---|
Ganwyd |
23 Gorffennaf 1921 ![]() Sant-Ivi ![]() |
Bu farw |
3 Tachwedd 1999 ![]() Galway ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
geiriadurwr, ieithydd, person milwrol ![]() |
Swydd |
athro prifysgol ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Breton National Party ![]() |
Gwobr/au |
Gorsedd y Beirdd ![]() |
Cenedlaetholwr Llydewig ac ieithydd oedd Alan Heusaff (23 Gorffennaf 1921 - 3 Tachwedd 1999).
Ganed ef yn Sant-Ivi ger Rosporden, yn Cornouaille. Aeth i École Normale Kemper, ac ymunodd a'r Parti National Breton (PNB) yn 1938. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dewisodd gydweithredu a'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill rhyddid i Lydaw, gan ymuno a Bezen Perrot yn 1943. Ar ddiwedd y rhyfel, bu raid iddo ffoi o Lydaw, a chafodd gymorth rhai o aelodau Plaid Cymru i gyrraedd Iwerddon, lle dechreuodd astudio ym Mhrifysgol Dulyn yn 1950, gan gael gwaith gyda Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol Iwerddon yn ddiweddarach.
Yn 1961, roedd yn un o sylfaenwyr yr Undeb Celtaidd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog. Etholwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol. Ef a gyhoeddodd y geiriadur cyntaf yn Llydaweg yn unig, Geriaoueg Sant-Ivi.